Grantiau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn derbyn arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i’w ddosbarthu ar ffurf grantiau i gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr. Nid ydym yn gweinyddu grantiau’n uniongyrchol i awduron unigol ond yn eu sianelu yn hytrach drwy gyhoeddwyr. Y nod yw cefnogi cyhoeddi deunydd o ansawdd uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan sicrhau bod y deunydd hwnnw ar gael yn eang. Mae manylion pellach am y grantiau gwahanol rydym yn eu gweinyddu i’w cael isod.