HER YR HYDREF

  • Eisiau darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn gwybod ble mae dechrau?
  • Ydy dod o hyd i amser i chi’ch hunan yn brin?
  • Angen her i’w chyflawni dros yr hydref?

Ymunwch â Her yr Hydref!

Os ydy’n anodd cael hyd i amser i ymlacio, neu os carech chi ddarllen mwy ac ymgolli mewn llyfr da ond bod amser yn brin, mae Her yr Hydref yn ffordd wych o ddechrau arni.

Mae’r her yn eich annog i ddarllen un llyfr Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref. Mae’r gyfres arbennig hon o lyfrau byrion gan awduron poblogaidd yn cynnig y cyfle perffaith i bori mewn llyfr – hyd yn oed os mai dim ond ychydig o funudau bob dydd sydd gennych.

Mae nifer o lyfrau Stori Sydyn o bob math ar gael yn y Gymraeg, rhai ffuglen a ffeithiol, gan awduron fel Fflur Dafydd, Dylan Ebenezer a Manon Steffan Ros. Gyda’r llyfrau yn costio £1 yr un, ac yn rhyw 100 o dudalennau o hyd, maen nhw’n berffaith ar gyfer taith trên i’r gwaith, darllen dros amser cinio neu ddeg munud gyda phaned, gyda theitlau newydd yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn fel rhan o’r cynllun. Eleni, cyhoeddir y ddwy gyfrol newydd yn y Gymraeg gan y Lolfa:

Deffro’r Ddraig – Rygbi Cymru 1998–2024 gan Seimon Williams. Llyfr am rygbi Cymru yn yr oes broffesiynol sy’n edrych ar y gemau mawr, y prif gymeriadau a rhai o straeon pwysicaf y gamp dros y chwarter canrif diwethaf. Daw’r stori i ben drwy edrych ar y garfan ifanc, a thaith yr haf i Awstralia yn 2024.

Tywyllwch y Fflamau gan Alun Davies. Mae’n rhaid i’r Ditectif Bedwyr Campell gamu’n ôl i’r gorffennol wedi i lun gwerthfawr ddod i’r fei – llun o ferch ifanc yn cael ei llosgi ar goelcerth. Mae’r llun yn gysylltiedig â llofruddiaeth casglwr celf yn ardal Aberystwyth ddeg mlynedd ynghynt. A fydd Ditectif Campell yn llwyddo i ddod o hyd i’r lleidr a’r llofrudd?

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym i gyd yn gwybod pa mor anodd gall hi fod i gael awr neu ddwy i ymlacio ac ymgolli mewn llyfr da. Y peth gorau am gyfres Stori Sydyn ydy’r ffaith bod y llyfrau wedi’u hysgrifennu ar gyfer pobl brysur, felly gallwch chi fwynhau llyfr gwych gan awdur arbennig mewn ychydig o sesiynau byr. Mae Sialens Her yr Hydref yn ffordd hawdd i neilltuo amser i ddarllen bob wythnos, ac efallai byddwch chi’n darganfod eich hoff awdur nesaf ar yr un pryd!”

I ddarllenwyr sydd wedi mwynhau cyfres Amdani i ddysgwyr, mae llyfrau Stori Sydyn yn gam naturiol tuag at ddarllen llyfrau hirach.

Dywedodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’r Ganolfan yn falch iawn o gefnogi Her yr Hydref. Mae llyfrau cwrs a llyfrau darllen hamdden i ddysgwyr yn bwysig iawn o safbwynt datblygu sgiliau dysgu Cymraeg, ond hefyd yn bwysig i’r diwydiant cyhoeddi a gwerthu llyfrau. Byddwn ni’n annog ein dysgwyr sy’n ddarllenwyr brwd i ymuno yn hwyl ymgyrch Her yr Hydref.”

Datblygwyd rhaglen Stori Sydyn (Quick Reads) gan y Reading Agency, ac fe’i cydlynir yng Nghymru gan y Cyngor Llyfrau, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid yn cefnogi cyhoeddi llyfrau Stori Sydyn / Quick Reads o Gymru yn y Gymraeg ac yn Saesneg, bob blwyddyn. Cyhoeddir y ddau deitl Saesneg o Gymru eleni gan Graffeg: Five Nights Out gan yr ecolegydd Hugh Warwick, a Piebald gan Nicola Davies.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS: “Mae darllen yn sgìl hollbwysig sy’n hanfodol trwy gydol ein bywydau. Gyda chymaint ohonom yn teimlo nad oes gennym yr amser i ddatblygu’r sgiliau hynny, mae Her yr Hydref yn rhoi’r cyfle perffaith i ni. Mae’n bleser mawr cael ymgolli mewn llyfr, ac rwyf wrth fy modd bod mwy o lyfrau Cymraeg Stori Sydyn wedi eu cyhoeddi gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru.

“Rwy’n dymuno pob lwc i chi i gyd gyda’r her hon. Darllen Hapus!”

Gallwch ddilyn Her yr Hydref ar Instagram @llyfrau.cymru o 1–31 Hydref 2024.

Mae rhestr o lyfrau Stori Sydyn diweddar ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau llyfrau.cymru