Gŵyl Lyfrau Aberaeron

26 Hyd 2018

Bydd Gŵyl Lyfrau Aberaeron yn cael ei gynnal am y tro cyntaf yn Neuadd Goffa Aberaeron ar benwythnos y 3ydd a 4ydd o Dachwedd.

Bydd Gŵyl Lyfrau Aberaeron yn cael ei gynnal am y tro cyntaf yn Neuadd Goffa Aberaeron ar benwythnos y 3ydd a 4ydd o Dachwedd. Bydd y penwythnos yn dechrau gyda sesiwn stori am ddim i blant yn Gymraeg a Saesneg, wedi'i gyflwyno gan y bardd a'r awdur Karen Gemma Brewer. Bydd yr awdur a'r darlinwr o Aberystwyth, Peter Stevenson yno yn rhannu chwedlau Cymraeg, yn addas i oedolion a phlant o 8 oed ac uwch. Yn dilyn hynny am 3yp bydd sesiwn crefft a stori yn Gymraeg i blant rhwng 3-10 gyda Meleri Wyn James, awdur y gyfres boblogaidd, Na, Nel!

Am fwy o fanylion ewch i dudalen digwyddiad yr Wyl ar Facebook, neu ymweld â GwisgoBookworm ar Alban Square; 01545 238282  info@gwisgo.co.uk 

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com