Enillydd, categori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2026
The Wicked Lies of Habren Faire gan Anna Fiteni
Nofel gyntaf yr awdur yw The Wicked Lies of Habren Faire, (cyhoeddwyd gan Electric Monkey, Harper Collins) sy’n rhamant-ffantasi dywyll ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau. Mae wedi’i hysbrydoli gan fytholeg Cymru, gyda chwedlau a thraddodiadau Cymreig wedi’u plethu drwyddi draw.
I Sabrina Parry, mae’r byd yn galed, yn greulon ac yn ymarferol. Gyda’i thad yn y carchar, ei hamcan mewn bywyd yw: 1. dal gafael yn ei swydd; 2. brathu ei thafod; a 3. trefnu bod ei chwaer, Ceridwen, yn dod o hyd i ŵr sy’n ddigon cyfoethog i ofalu amdani. Ond yna mae Ceridwen yn diflannu i’r goedwig dywyll gan adael modrwy haearn yn unig ar ei hôl, ac mae Sabrina yn cael ei thynnu mewn i henfyd o dylwyth teg a bwystfilod. Mae’r byd hwnnw’n hardd ond mae hefyd ar ddarfod …
Dywedodd y panel beiriniaid: “O deitlau penodau dwyieithog a darluniau wedi’u hysbrydoli gan lên gwerin, hyd at deitl y wlad chwedlonol lle mae taith Sabrina i achub ei chwaer Ceridwen yn digwydd, mae’r llyfr hwn wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn diwylliant Cymreig. Ond yn hytrach na dibynnu ar ystrydebau’r genre,mae Anna Fiteni yn cloddio’n ddyfnach i fytholeg Cymru a hanes mwyngloddio mewn ffordd newydd ac unigryw, gan greu ffantasi dywyll gyda chymeriadau benywaidd cryf, tywysog tylwyth teg twyllodrus, a thro ffres ar elfennau arferol llên gwerin Cymru.”
Gwobr Dewis y Darllenwyr, categori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2026
10 Fascinating Stories from Welsh History (that you’ll want to talk about) gan Siân Lewis a Charlotte Williams, darluniwyd gan Kyle Legall
10 Fascinating Stories (cyhoeddwyd gan Rily) yn mynd â darllenwyr ifanc ar daith gyffrous drwy hanes Cymru, gan ddatgelu’r rhyfeddol a’r annisgwyl.
Gyda phob stori, darganfyddwch linell amser, map a darluniau lliwgar sy’n dod â’r gorffennol yn fyw. Dewch i gwrdd ag arwyr Cymru a phobl gyffredin y bu eu gweithredoedd yn helpu i lunio ein Cymru ni heddiw, a’r byd ehangach hefyd.