Cynllun Ymestyn

Cymeriad Sali Mali ar stonding Cyngor Llyfrau Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2016

Beth yw’r Cynllun Ymestyn?

Cynllun sy’n helpu llyfrwerthwyr a rhai sy’n trefnu gweithgareddau i gydweithio â’i gilydd er mwyn cynnal stondinau llyfrau mewn digwyddiadau bach a mawr ledled Cymru.

*Noder bod y Cynllun Ymestyn yn canolbwyntio ar helpu llyfrwerthwyr gyda chynlluniau digidol yn ystod 2020-21 wrth i gyfyngiadau Covid-19 atal cynnal digwyddiadau lleol a chenedlaethol.

Pwy sy’n elwa o’r Cynllun, a sut y caiff ei drefnu?

Mae’r Cynllun o fudd i drefnwyr, llyfrwerthwyr a chyhoeddwyr fel ei gilydd.

Gall stondin lyfrau ychwanegu haen arall at ddigwyddiad heb greu fawr ddim gwaith ychwanegol i drefnwyr prysur.

Mae llyfrwerthwyr yn derbyn grant digolledu ynghyd â chyngor arbenigol ynglŷn â theitlau addas pan fyddant yn mynd â stondin i ddigwyddiad neu’n cynnal digwyddiad yn y siop y tu allan i’r oriau masnachu arferol.

Gallant hefyd cael llyfrau ar delerau gwerthu-neu-ddychwel, gyda chaniatâd y Ganolfan Ddosbarthu.

Mae’r Cynllun yn helpu cyhoeddwyr drwy hyrwyddo gwerthiant pob categori o lyfrau Cymraeg a Chymreig. Gall fod yn fodd i gyflwyno llyfrau mewn ffordd wahanol a chreu marchnadoedd newydd.

Mae dros 100 o siopau eisoes yn aelodau o’r Cynllun Ymestyn.

Pa fath o ddigwyddiadau sy’n gymwys?

Pob math – o wyliau diwylliannol i gynadleddau, o lansiadau i nosweithiau cymdeithasol a ffeiriau ysgol.

Mae’r Cynllun bellach yn cefnogi dros 300 o ddigwyddiadau bob blwyddyn, a phob un ohonynt yn unigryw.

Pa lyfrau sy’n cael eu hybu?

Natur y digwyddiad sy’n penderfynu pa fath o deitlau sydd ar werth, a gellir cynnig amrywiaeth eang o lyfrau Cymraeg ac o lyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig.

Mae Swyddog Gweinyddol y Cynllun bob amser yn barod i drafod teitlau addas, ac i roi pob cymorth i drefnydd y digwyddiad ac i’r llyfrwerthwr i greu stondin dda.

Beth yw’r cam nesaf?

Os ydych yn drefnydd sydd am gynnwys stondin lyfrau mewn digwyddiad, neu’n llyfrwerthwr sydd am fynd â stondin i ddigwyddiad lleol neu genedlaethol, cysylltwch â:

Lowri Davies
Adran Gwerthu a Gwybodaeth
Canolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru
Parc Menter Glanyrafon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3AQ
Ffôn: 01970 624455
Ffacs: 01970 625506
E-bost: gwerthu@llyfrau.cymru