Llyfrgelloedd


Pa wasanaeth a gynigir?

Swyddogion Gwerthu

Mae Swyddogion Gwerthu y Cyngor yn teithio trwy Gymru gyfan yn ymweld â Llyfrgelloedd Cymru er mwyn dangos y llyfrau diweddaraf sydd ar gael ac i gasglu archebion.

Mae gan ein swyddogion y profiad a’r wybodaeth leol i argymell pa lyfrau fyddai’n gweithio orau mewn llyfrgelloedd gwahanol.

Gellir hefyd chwilio am wybodaeth am yr holl lyfrau sydd ar gael ar gronfa ddata’r Cyngor Llyfrau drwy ein safle https://siop.llyfrau.cymru

Caiff archebion eu prosesu trwy siop leol o ddewis y llyfrgell, sy’n helpu cefnogi’r diwydiant a’r gymdeithas leol.

I drefnu ymweliad, cysylltwch â’r Adran Werthu:

01970 624455 e-bost: gwerthu@llyfrau.cymru

Mae Adran Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau hefyd yn gweithio gyda llyfrgelloedd er mwyn hyrwyddo digwyddiadau arbennig fel Diwrnod y Llyfr, Sialens Ddarllen yr Haf, Gwobrau Tir na n-Og ac ymgyrchoedd eraill.