Dinas Llên Aberystwyth Ceredigion

 

Dinas Llên gyntaf Cymru yn ymuno â rhwydwaith fyd-eang o Ddinasoedd Creadigol UNESCO

Rydym yn falch o fod yn rhan o stori Dinas Llên Aberystwyth Ceredigion. O gyfnod ffurfio’r bartneriaeth strategol yn 2021 hyd at gyhoeddiad UNESCO ym mis Hydref 2025 fod ein cais wedi bod yn llwyddiannus, rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid i dynnu sylw at dreftadaeth lenyddol gyfoethog yr ardal. Mae gwreiddiau Cyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth Ceredigion, ochr yn ochr â nifer o gyhoeddwyr, awduron a siopau llyfrau. Rydym wrth ein bodd yn gallu darparu cartref i lawer o swyddogaethau a gweithgareddau’r Ddinas Llên UNESCO newydd yn y dyddiau cynnar hyn.

Mae’n gyfnod cyffrous i ni ym Mhartneriaeth Dinas Llên, gyda llawer yn digwydd y tu ôl i’r llenni ac ar draws ein cymunedau ledled Ceredigion. Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy’n digwydd ar wefan Dinas Llên Dinas Llên Aberystwyth Ceredigion – City of Literature (agor mewn ffenest newydd) – ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, @AberystwythDinasLlen (agor mewn ffenest newydd)

Mae’r Bartneriaeth Strategol yn cynnwys Cyngor Tref Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (gan gynnwys Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau).

Golygfa ar draws Aberystwyth a Bae Ceredigion ar ddiwrnod heulog