Beirniaid 2023

Bob blwyddyn, rydym yn ffodus o gael panel o feirniaid sydd â diddordeb mewn llyfrau plant yng Nghymru ac sy’n ymroi i’r dasg o ddarllen y llyfrau a enwebwyd ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og.

Mae gennym un panel yn beirniadu’r teitlau Cymraeg yn y categorïau oedran cynradd ac uwchradd. Mae panel beirniaid arall yn gwerthuso’r llyfrau Saesneg sydd â chefndir Cymreig dilys.

PANEL CYMRAEG

Y beirniaid ar y panel Cymraeg ar gyfer 2023 yw Morgan Dafydd (Cadeirydd), Sara Yassine, Sioned Dafydd, Francesca Elena Sciarrillo a Siôn Lloyd Edwards. Eu tasg nhw yw dewis y rhestr fer a’r enillydd terfynol. Cliciwch ar eu lluniau isod i gael gwybod mwy amdanynt a sgroliwch i lawr i gwrdd â’r panel Saesneg

Beirniad Tir na n-Og 2023 - Morgan Dafydd
Beirniaid Tir na n-Og 2023: Francesca Elena Sciarrillo
Beirniad Tir na n-Og 2023:  Sioned Dafydd
Beirniaid Tir na n-Og 2023: Sara Yassine
Beirniaid Tir na n-Og 2023: Siôn Lloyd Edwards

PANEL SAESNEG

Mae gwaith y paneli beirniadu yn eithriadol o bwysig. Nid yn unig y maent yn dewis y rhestr fer a’r enillwyr yn y pen draw, maent hefyd yn rhoi adborth gwerthfawr ar yr holl lyfrau, i gyhoeddwyr ac awduron. Cadeirydd y panel sy’n beirniadu’r llyfrau Saesneg sydd â chefndir Cymreig dilys yn 2023, yw Jannat Ahmed. Mae Simon Fisher ac Elizabeth Kennedy wedi ymuno â hi. Cliciwch ar eu delweddau isod i gael gwybod mwy am ein beirniaid.

Beirniaid Tir na n-Og 2023: Jannat Ahmed
Beirniaid Tir na n-Og 2023: Simon Fisher
Beirniad Tir na n-Og 2023: Elizabeth Kennedy