Golygu

Mae gwaith yr Adran Olygyddol yn elfen bwysig o’r gwasanaethau mae’r Cyngor Llyfrau yn eu cynnig i gyhoeddwyr Cymru er mwyn sicrhau safon ar draws y sector llyfrau.

Bob blwyddyn, mae staff yr adran hon yn ymdrin â hyd at 200 o destunau, gan olygu teipysgrifau a chywiro proflenni mewn cydweithrediad â golygyddion creadigol y gweisg.

Nid cymryd lle gwaith golygyddion y gweisg yw pwrpas yr adran, ond yn hytrach ei atgyfnerthu drwy gynnig arbenigedd proffesiynol annibynnol a phâr newydd o lygaid profiadol ar destun.

Cymraeg yw cyfrwng y rhan fwyaf o’r teipysgrifau a ddaw trwy ddwylo’r adran, a’r rheiny’n dod o hyd at 20 o gyhoeddwyr gwahanol ar hyd a lled Cymru. 

Gwasanaeth ar gyfer cyhoeddwyr yn unig sy’n cael ei gynnig – hynny yw, dyw’r adran ddim fel arfer yn delio’n uniongyrchol ag awduron ond mae’n gwneud hynny drwy’r wasg sy’n cyhoeddi eu gwaith.

Gan fod cynifer o deipysgrifau yn cyrraedd yr adran – o lyfrau plant i nofelau a barddoniaeth a llyfrau ffeithiol o bob math – mae staff yr adran hefyd yn manteisio o bryd i’w gilydd ar gymorth tîm bychan o olygyddion allanol profiadol.

Deunydd darllen hamdden yn unig sy’n cael ei dderbyn gan yr adran ac nid deunydd addysgol. 

Mae manylion pellach am y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan Adran Olygyddol y Cyngor Llyfrau a rhestr o gyfrifoldebau golygyddion y gweisg i’w cael yma

 

Manylion Cyswllt

Uwch Swyddog Golygyddol – Huw Meirion Edwards: huw.meirionedwards@llyfrau.cymru

Swyddog Golygyddol – Anwen Pierce: anwen.pierce@llyfrau.cymru