Gwerthu a Gwybodaeth

Yr Adran Gorfforaethol sy’n gyfrifol am werthu i siopau a manwerthwyr a darparu gwybodaeth gyfredol. Mae Swyddogion Gwerthu y Cyngor yn ymweld yn gyson â siopau, ysgolion a llyfrgelloedd ledled Cymru ac mae’r archebion a dderbynnir yn cael eu prosesu drwy Ganolfan Ddosbarthu’r Cyngor.

Mae gan y Cyngor gysylltiadau â dosbarthwyr llyfrau ym Mhrydain i sicrhau bod llyfrau o Gymru ar gael ar draws y byd. I gael gwybodaeth bellach am lyfrau o Gymru a theitlau sydd mewn stoc yn y Ganolfan Ddosbarthu ewch i www.gwales.com neu siop.llyfrau.cymru a www.gwales.com/llyfrgell lle mae modd dod o hyd i wybodaeth am yr holl lyfrau a gedwir mewn stoc yn y Ganolfan Ddosbarthu.

Staff yr Adran hon sydd hefyd yn ymwneud â’r trefniadau ar gyfer stondinau yng Ngŵyl y Gelli, y Sioe Amaethyddol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Maen nhw hefyd yn gweinyddu’r Cynllun Ymestyn sy’n cefnogi llyfrwerthwyr i drefnu stondin lyfrau mewn amrywiol ddigwyddiadau drwy Gymru. Mewn ymateb i gyfyngiadau Covid-19, mae cymorth o’r Cynllun Ymestyn yn canolbwyntio ar gefnogi cynlluniau gwerthu digidol gan lyfrwerthwyr.

Fel rhan o’u gwaith gwerthu a hyrwyddo, mae’r Adran yn gyfrifol am gynlluniau hyrwyddo Llyfr y Mis, Llyfr Saesneg y Mis a Llyfr y Mis i blant, ac maen nhw’n cyhoeddi atodiadau hysbysebu a chatalogau yn rheolaidd.

Mae’r holl lyfrau a restrir ar www.gwales.com ar gael trwy’r siopau llyfrau, neu i’w prynu ar-lein.

 

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01970 624455
E-bost: gwerthu@llyfrau.cymru

Cyngor Llyfrau Cymru
Canolfan Ddosbarthu
Uned 16,
Parc Menter Glanyrafon,
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3AQ
Ffôn: 01970 624455
E-bost: gwerthu@llyfrau.cymru