Y Ganolfan Ddosbarthu

Mae Canolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau yn cynnig gwasanaeth dosbarthu cyfanwerthu i’r fasnach lyfrau yng Nghymru.

Wedi’i lleoli mewn adeilad pwrpasol ar Barc Menter Glanyrafon ar gyrion Aberystwyth, mae warws y Ganolfan yn cynnwys stoc eang o ddeutu hanner miliwn o lyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru neu o ddiddordeb Cymreig.

Daw hyd at 1,300 o lyfrau newydd Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru neu o diddordeb Cymreig o’r wasg yn flynyddol.

Nod y Ganolfan yw stocio pob llyfr posibl sydd o ddiddordeb Cymreig, lle gall cyhoeddwyr gynnig telerau cyfanwerthu.

Mae’r Ganolfan Ddosbarthu yn hunan-gynhaliol. Mae’n  cynhyrchu incwm o’i gweithgareddau masnachol ac nid yw’n derbyn nawdd o’r pwrs cyhoeddus.

 

 

Manylion Cyswllt

Ebost: canolfan.ddosbarthu@llyfrau.cymru

Ffôn: 01970 624455

Pennaeth y Ganolfan Ddosbarthu – Arwel Evans arwel.evans@llyfrau.cymru

Ymholiadau Gwerthu a Marchnata – gwerthu@llyfrau.cymru

Ymholiadau Gwybodaeth – gwybodaeth@llyfrau.cymru

Rheolydd Gwasanaethau Cwsmer – Glenys Jenkins glenys.jenkins@llyfrau.cymru