Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc, 2024
Heddiw, dydd Iau 28 Tachwedd, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi teitlau’r llyfrau sydd wedi ennill Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc, a gyflwynir am y tro cyntaf yn 2024.
Mae dau gategori i’r gwobrau – Clawr Llyfr Cymraeg a Chlawr Llyfr Saesneg. Yr enillwyr yw:
Enillydd y categori Gymraeg:
Mynd i Weld Nain Darluniad y clawr gan Lily Mŷrennin. Dyluniad y clawr gan Richard Pritchard. Awdur: Delyth Jenkins. Cyhoeddir gan Y Lolfa.
Enillydd y categori Saesneg:
The Song that Sings Us Darluniad y clawr gan Jane Matthews. Dyluniad y clawr gan Becka Moor. Awdur: Nicola Davies. Cyhoeddir gan Firefly Press.
Dywedodd Lily Mŷrennin, darlunydd y clawr Cymraeg buddugol: “Am anrhydedd i glywed bod y llyfr bach gaeafol hwn wedi cael ei ddewis i ennill y wobr! Mae’r darluniau yn dathlu clydwch yr adeg yma o’r flwyddyn, a dwi’n gobeithio y gall pawb brofi ychydig o hud yn ei dudalennau.”
Dywedodd Ellyw Jenkins o’r Lolfa: “Mae’r Lolfa yn falch iawn bod clawr y llyfr Mynd i Weld Nain wedi dod i’r brig yn y gystadleuaeth Gwobr Clawr Llyfrau Plant 2024, a bod gwaith arlunio gwych Lily Mŷrennyn wedi cael cydnabyddiaeth. Gobeithio y bydd pawb yn mynd allan i brynu’r llyfr arbennig yma – mae’n anrheg Nadolig perffaith!”
Dywedodd Jane Matthews, darlunydd y clawr Saesneg buddugol: “Waw, mae hyn yn newyddion arbennig! Rwy’n falch iawn o ennill y wobr newydd wych hon, yn enwedig o ystyried y tri chlawr hardd, bywiog yr oedd The Song that Sings Us yn eu herbyn. Rwyf wrth fy modd bod y wobr hon wedi ei sefydlu i ddathlu dyluniadau cloriau, ac mae’n golygu llawer i gael cydnabyddiaeth Cyngor Llyfrau Cymru a’u Panel Pobl Ifanc.”
Dywedodd Penny Thomas o Firefly: “Rydym wrth ein bodd bod clawr syfrdanol Jane a Becka ar gyfer The Song that Sings Us wedi ennill Gwobr Clawr Llyfrau Plant Cymru, ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth. Mae hyn yn gydnabyddiaeth wych o’u sgiliau artistig a dylunio rhagorol a’u dychymyg!”
Sefydlwyd y gwobrau er mwyn dathlu a chydnabod cyfraniad darlunwyr a dylunwyr, a’u gwaith i ddod â straeon yn fyw a chreu llyfrau trawiadol a deniadol sy’n apelio at ddarllenwyr ifanc.
Dewiswyd yr wyth llyfr oedd ar y rhestrau byrion gan aelodau Panel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau. Dewiswyd enillwyr y ddau gategori trwy bleidlais gyhoeddus a gynhaliwyd ar-lein rhwng 12 a 25 Tachwedd. Mae dylunydd/darlunydd y clawr buddugol yn y ddau gategori yn ennill neu’n rhannu gwobr ariannol o £500.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Lyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i Lily Mŷrennin a Richard Pritchard, a Jane Matthews a Becka Moor am ennill gwobrau cyntaf Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc.
Rydw i’n siwr ein bod ni i gyd wedi dewis llyfr oherwydd iddo ddal ein llygad ar y silff, neu wedi sylwi ar glawr sydd wedi gwneud i ni fod eisiau darganfod mwy. Mewn llyfrau i blant a phobl ifanc mae cloriau yn bwysicach fyth, gan fod darllenwyr ifanc yn dechrau darganfod llyfrau, themâu a genres newydd – ac mae clawr gwych yn gallu eu hanfon nhw ar daith darllen na fydden nhw wedi ei hystyried o’r blaen.
Felly, rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu dathlu creadigwrydd a thalent darlunwyr a dylunwyr Cymru wrth gyflwyno’r gwobrau hyn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr holl lyfrau ar y rhestrau byrion eleni.”
Y llyfrau eraill ar y rhestrau byrion oedd:
Clawr Llyfr Cymraeg:
Ac Rwy’n Clywed Dreigiau / And I Hear Dragons Darluniad y clawr gan Eric Heyman. Dyluniad y clawr gan Becka Moor. Golygwyd gan Hanan Issa. Cyhoeddir gan Firefly.
Diwrnod Prysur Darluniad a dyluniad y clawr gan Huw Aaron. Awdur: Huw Aaron. Cyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch.
Mwy o Straeon o’r Mabinogi Darluniad y clawr gan Valériane Leblond. Dyluniad y clawr gan Gwasg Rily Publications. Awdur: Siân Lewis. Cyhoeddir gan Gwasg Rily Publications.
Clawr Llyfr Saesneg:
Ceri & Deri: 1,2,3 Darluniad y clawr gan Max Low. Dyluniad y clawr gan Joana Rodrigues, Graffeg. Awdur: Max Low. Cyhoeddir gan Graffeg.
Lilly & Myles: The Torch Darluniad y clawr gan Hannah Rounding. Dyluniad y clawr gan Joana Rodrigues, Graffeg. Awdur: Jon Roberts. Cyhoeddir gan Graffeg.
Tapper Watson and the Quest for the Nemo Machine Darluniad y clawr gan Becka Moor. Awdur: Claire Fayers. Cyhoeddir gan Firefly.