Cefnogi siopau llyfrau

Drws agored siop lyfrau

Gwerthu, archebion a danfoniadau 

Mae ein tîm gwerthu yma i’ch helpu chi ac maen nhw’n gallu rhannu gwybodaeth am y llyfrau diweddaraf sydd ar gael, casglu archebion a chynnig cyngor ar deitlau sydd yn berthnasol i’ch ardal chi. Os hoffech chi drefnu ymweliad, neu gofrestru i dderbyn diweddariadau rheolaidd dros e-bost, cysylltwch â’r tîm gwerthu: gwerthu@llyfrau.cymru (agor e-bost) neu ffoniwch ni ar 01970 624455.

Gallwch hefyd chwilio am wybodaeth yholldeitlau sydd ar gronfa ddata’r Cyngor Llyfrau, neu osod archebion ar-lein ar Siop Gwales (Agor mewn ffenest newydd).

Ein nod yw cynnig dosbarthu diwrnod nesaf i siopau llyfrau sy’n archebu cyn hanner dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener (er na allwn warantu hyn ar adegau prysur). Gallwn hefyd gyflawni eich archebion ar-lein a’u dosbarthu i’r cyfeiriad cartref.

Grantiau 

Gallwn ddarparu cymorth ariannol i lyfrwerthwyr i helpu gyda chostau cynnal digwyddiadau allgymorth i hyrwyddo a gwerthu llyfrau yng Nghymru.

Grantiau i Lyfrwerthwyr

Ymgyrch cefnogi siopau llyfrau 

Mae ein hymgyrch #CefnogiSiopauLlyfrau yn rhedeg yn gyson trwy’r flwyddyn i ddathlu siopau llyfrau annibynnol, i rannu argymhellion darllen ac i annog darllenwyr i gefnogi eu siop lyfrau leol. Rydym hefyd yn cefnogi Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol (gwefan allanol) ym mis Mehefin, a Diwrnod Siopau Llyfrau (gwefan allanol) ym mis Hydref, gyda’r Booksellers Association, i sicrhau bod yr ymgyrchoedd hyn yn digwydd yn ddwyieithog er mwyn galluogi siopau llyfrau Cymru i gymryd rhan.

Rydym yn creu adnoddau marchnata i siopau llyfrau eu defnyddio, ar gyfer #CefnogiSiopauLlyfrau a gwobrau Tir na n-Og, felly os hoffech chi dderbyn y rhain, cysylltwch â ni drwy’r ffurflen gyswllt:

Cysylltwch â ni

Tir na n-Og Awards 

Mae pob archeb a brosesir drwy ein platfform gwerthu ar-lein, ffolio.cymru, yn ogystal ag archebion ysgolion a llyfrgelloedd, yn gallu cefnogi siopau llyfrau annibynnol yng Nghymru.

Gall cwsmeriaid ar-lein, athrawon a llyfrgellwyr ddewis siop lyfrau yng Nghymru i dderbyn comisiwn ar gyfer eu harcheb – sy’n eu helpu nhw i’ch cefnogi chi, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu ymweld â’ch siop wyneb yn wyneb.