Rydyn ni’n caru llyfrau, ac yma rydyn ni’n dathlu talentau anhygoel yr awduron, darlunwyr, golygyddion, dylunwyr a chyhoeddwyr sy’n eu creu.
Pa ffordd well o ddod o hyd i’r llyfr i’w ddarllen nesaf?
Gwobrau Tir na n-Og
Gwobrau ar gyfer llyfrau i blant a phobl ifanc a sefydlwyd yn 1976.
Gwobrau Clawr y Flwyddyn i Blant a Phobl Ifanc
Dathlu a chydnabod cyfraniad darlunwyr a dylunwyr, a’u gwaith iddod â straeon yn fyw.
Gwobr Mary Vaughan Jones
Cyflwynir y wobr hon bob tair blynedd am gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.
Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr genedlaethol flynyddol sy’n dathlu gwaith llenyddol Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn Gymraeg ac yn Saesneg mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.
Llenyddiaeth Cymru sy’n rhedeg y wobr.