Cyhoeddwyr

Peiriant coladu papurau mewn argraffdy

Rydym yn cynnig cefnogaeth ariannol a chreadigol i gyhoeddwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae ein grantiau craidd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, ac maent yn cefnogi cynhyrchu llyfrau a chylchgronau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae cyllid hefyd ar gael i gyhoeddwyr gomisiynu awduron, cyflogi golygyddion creadigol a swyddogion marchnata, ac ar gyfer rhai mentrau marchnata llyfrau.

Cyllid i Gyhoeddwyr

Cyhoeddiadau: Iaith Gymraeg

Cefnogaeth ariannol ar gyfer cyhoeddiadau iaith Gymraeg.

Cyhoeddiadau Saesneg

Cefnogaeth ariannol ar gyfer cyhoeddiadau Saesneg wedi eu cyhoeddi yng Nghymru.

Cylchgronau: Iaith Gymraeg

Cefnogaeth ariannol ar gyfer cylchgronau iaith Gymraeg wedi eu cyhoeddi yng Nghymru.

Cylchgronau: Saesneg

Cefnogaeth ariannol ar gyfer cylchgronau Saesneg wedi eu cyhoeddi yng Nghymru.

Cyfleoedd a Thendrau

Y cyfleoedd cyllid a thendro diweddaraf sy’n cael eu cynnig gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Pa gefnogaeth arall sydd ar gael i gyhoeddwyr?

Yma gallwch ddarganfod mwy am y math o gefnogaeth sydd ar gael i gyhoeddwyr:

Gwasanaethau Dylunio

Gwasanaethau Golygyddol

Cyfieithu

Canolfan Ddosbarthu