Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE), Rhif Elusen Gofrestredig 1192269. Prif nod ein gwaith yw cefnogi a datblygu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, a hybu llythrennedd a darllen er pleser.
Cawsom ein sefydlu yn Aberystwyth yn 1961, a’n trosglwyddo i fod yn SCE yn 2021.
Cefnogi’r sector llyfrau
Rydym yn gweithio gyda chyhoeddwyr i feithrin talent a chynnwys newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â chynnig gwasanaethau arbenigol ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu.
Rydym hefyd yn gyfrifol am weinyddu grantiau i gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau, ac i lyfrwerthwyr annibynnol.
Sut yr ydym yn gweithio
Daw ein cyllid yn rhannol o grant craidd gan Lywodraeth Cymru trwy Gymru Greadigol, ac yn rhannol o weithgareddau masnachol a gwasanaeth cyfanwerthu ein Canolfan Ddosbarthu. Rydym yn derbyn cyllid grant ar gyfer ein rhaglenni hyrwyddo darllen 2025-28 gan Rhaglen Cymorth Grant y Cwricwlwm.
Rydym yn gweithio ar draws dau safle – lleolir ein swyddfeydd yng Nghastell Brychan yn Aberystwyth ac mae’r Ganolfan Ddosbarthu wedi ei lleoli ym Mharc Menter Glanyrafon ar gyrion y dref.
Gallwch ddysgu mwy am ein hamcanion a’n pwrpas elusennol, sut yr ydym yn gweithio, a’n llywodraethiant, yma: