Cefnogaeth i Gyhoeddwyr

Silffoedd llyfrau yn llawn llyfrau mewn siop lyfrau

Grantiau 

Ariennir ein grantiau craidd gan Lywodraeth Cymru, trwy Cymru Greadigol, i gefnogi cynhyrchu llyfrau a chylchgronau yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Mae cyllid hefyd ar gael i gyhoeddwyr gomisiynu awduron, cyflogi golygyddion creadigol a swyddogion marchnata, ac ar gyfer rhai gweithgareddau marchnata llyfrau.

Ariannu

Dosbarthu

Lleolir ein Canolfan Ddosbarthu nid-er-elw, sy’n gartref i oddeutu miliwn o lyfrau, ar Barc Menter Glanyrafon, ychydig o filltiroedd y tu allan i dref Aberystwyth. Mae gennym ffocws cryf ar lyfrau o Gymru ac am Gymru yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn dosbarthu a chyfanwerthu llyfrau a chylchgronau ar ran cyhoeddwyr ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Gwybodaeth am y Ganolfan Ddosbarthu

Gwasanaethau Golygyddol a Dylunio 

Mae ein timau mewnol yn cynnig gwasanaethau dylunio a golygyddol gyda chymhorthdal i gyhoeddwyr yng Nghymru. Y nod yw cefnogi a gwella ansawdd llyfrau a gynhyrchir ac a gyhoeddir yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Golygyddol 

Mae’r tîm golygyddol yn cynnig gwasanaeth golygyddol gyda chymhorthdal ar gyfer deunydd Cymraeg a Saesneg, i olygu teipysgrifau a chywiro proflenni. Rydym yn gweithio’n bennaf gyda deunydd darllen hamdden ac yn delio â hyd at 180 o deipysgrifau bob blwyddyn.

Rydym yn darparu’r gwasanaethau hyn ar gyfer oddeutu 20 o gyhoeddwyr yng Nghymru, gan fanteisio ar gymorth tîm bychan o olygyddion allanol profiadol yn ôl yr angen. Rhoddir blaenoriaeth bob amser i lyfrau sydd wedi derbyn grantiau cyhoeddi gan y Cyngor Llyfrau. Noder: nid ydym yn ymdrin â deunydd addysgol.

Gwasanaethau Golygyddol

Dylunio

Rydym yn cynnig y gwasanaethau dylunio canlynol:

  • Dylunio cloriau llyfrau
  • Dylunio llyfrau o glawr i glawr
  • Darparu deunydd gweledol, megis darluniau a ffotograffau, ar gyfer llyfrau

Mae’r tîm yn cynnwys yr Arweinydd Maes: Dylunio, a dau Swyddog Dylunio profiadol. Rydym yn cydweithio â dylunwyr, arlunwyr a ffotograffwyr llawrydd i gefnogi gwaith cyhoeddwyr Cymru.

Gwasanaethau Dylunio

Cyfieithu 

Nid ydym yn cynnig grantiau ar gyfer cyfieithu, heblaw am ddarparu rhywfaint o gyllid i’r cyhoeddwyr rydym yn eu cefnogi i gynhyrchu addasiadau Cymraeg o lyfrau plant.

Adnoddau all fod o gymorth gyda cyfieithu