Diwrnod y Llyfr

World Book Day logo

Yn flynyddol, rydym yn gweithio gyda Diwrnod y Llyfr i ddathlu llyfrau a darllen, a hynny ar ddydd Iau cyntaf mis Mawrth.  

Wedi’i ddynodi gan UNESCO yn ddathliad byd-eang o lyfrau a darllen, mae Diwrnod y Llyfr yn cael ei ddathlu mewn dros 100 o wledydd ledled y byd. Mae Diwrnod y Llyfr yn elusen a noddir gan National Book Tokens.  

Diolch i arian gan Lywodraeth Cymru, rydym yn cefnogi’r ymgyrch yng Nghymru fel bod darllenwyr ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y Gymraeg ac yn Saesneg, gan sicrhau bod llyfr £1 Cymraeg ar gael iddynt bob blwyddyn.  

O Ebrill 2025, ariennir y prosiect hwn gan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm, diolch i Adran Addysg Llywodraeth Cymru. 

Llyfr i chi’ch hun 

Mae Diwrnod y Llyfr yn hyrwyddo darllen er plesergan gynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc gael ei lyfr ei hun gyda thocynnau £1 Diwrnod y LlyfrTrwy ddathlu llyfrau a darllen, mae Diwrnod y Llyfr yn ysbrydoli plant a theuluoedd i ystyried eu hunain yn ddarllenwyr ac i ddarllen gyda’i gilydd yn fwy rheolaidd. 

Porwch drwy restr lyfrau £1 yma (gwefan Diwrnod y Llyfr, agor mewn ffenest newydd)

llyfr £1 Cymraeg 2026 ywUn i Ti ac Un i Figan Aneirin Karadogwedi’i ddarlunio gan Matt Abbot a’i gyhoeddi gan Rily. 

Un i Ti ac Un i Fi – Aneirin Karadog (Gwefan Diwrnod Y Llyfr, agor mewn ffenest newydd)

Ymysg y teitlau Cymraeg sydd hefyd ar gael am £1 ar gyfer Diwrnod Y Llyfr mae Gwyrdd ein Byd (Rily) gan Duncan Brown, Ha Ha Cnec! (Broga) gan yhr awdur a’r darlunydd Huw Aaron, a Darllen Gyda Cyw  (Y Lolfa) gan Anni Llŷn.

Taking part

Anyone can organize a World Book Day celebration! For inspiration and great ideas to celebrate reading and having fun with books, explore World Book Day’s website (opens in new tab). There are also bilingual World Book Day resources available for 2026 available for you to download.

Dinosaur Mask Welsh (PDF)

Dinosaur Mask English (PDF)

Primary Poster (PDF)

Secondary Poster (PDF)

Welsh-language £1 Books Poster (PDF)

For more information about World Book Day in Wales, you can contact us at plant@llyfrau.cymru (opens in email).

Tocynnau llyfrau Diwrnod y Llyfr 

Diolch i waith National Book Tokens, ar y cyd â chyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn dosbarthu dros 15 miliwn o docynnau llyfrau gwerth £1/€1.50 ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon bob blwyddyn drwy ysgolion, meithrinfeydd, llyfrgelloedd, carchardai ac elusennau eraill. Yn ogystal, mae modd lawrlwytho’r tocyn digidol untro o wefan Diwrnod y Llyfr (agor mewn ffenest newydd).

Gellir cyfnewid tocynnau am unrhyw lyfr £1 yn ystod ymgyrch swyddogol Diwrnod y Llyfr (gwiriwch yr union ddyddiadau ar y wefan) mewn siopau llyfrau annibynnol, siopau llyfrau cadwyn a rhai archfarchnadoedd. Mae hefyd yn bosibl eu defnyddio fel cyfraniad o £1/€1.50 tuag at unrhyw lyfr arall. Mae’r llyfrau £1 Saesneg hefyd ar gael mewn braille, print bras a sain trwy’r RNIB (Ffôn: 0303 123 999).