Awduron

Yr awdur Ian Brown yn darllen o'i gyfrol Albert Supersize i blant mewn llyfrgell

Rydym yn cefnogi awduron mewn sawl ffordd, er nad ydym yn darparu cyllid i awduron yn uniongyrcholOs ydych yn awdur sy’n chwilio am gyhoeddwrneu’n awdur hunangyhoeddedignodir isod nifer o ffynonellau cymorth a chefnogaeth. 

Dod o hyd i gyhoeddwr 

Os ydych yn awyddus i’ch gwaith gael ei gyhoeddi, rydym yn argymell eich bod chi’n cysylltu â chyhoeddwr. Cyhoeddi Cymru / Publishing Wales yw’r corff sy’n cynrychioli cyhoeddwyr yng Nghymru, a cheir rhestr o’u haelodau, a manylion cyswllt ar gyfer cwmnïau cyhoeddi ar eu gwefan.

Gwefan Cyhoeddi Cymru (Agor mewn ffenest newydd)

Adnoddau i awduron

Nid oes cyllid uniongyrchol ar gyfer hunan-gyhoeddi ar gael trwy ein grantiau ond dyma sefydliadau sy’n cefnogi awduron yn uniongyrchol: Gwefan Llenyddiaeth Cymru (Yn agor mewn tab newydd) Llenyddiaeth Cymru yw’r corff sy’n gyfrifol am ddatblygu awduron proffesiynol yng Nghymru ac maent yn cynnig ystod o gefnogaeth, gan gynnwys ysgoloriaethau, cyrsiau hyfforddi a chynlluniau mentora. Gwefan Cymdeithas yr Awduron (Agor mewn ffenest newydd) Mae Cymdeithas yr Awduron yn darparu cyngor a chefnogaeth i awduron ac mae’n ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol am grantiau a gwobrau llenyddol.

Gweithio gyda llyfrwerthwyr, llyfrgelloedd ac ysgolion

Rydym yn diweddaru ein Cyfeiriadur Awduron a Darlunwyr yn rheolaidd, sydd ar gael i helpu ysgolion, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd i gysylltu gydag awduron er mwyn trefnu digwyddiadau. Os hoffech chi gael eich cynnwys yn y cyfeiriadur, cysylltwch ag adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen ar plant@llyfrau.cymru (Agor e-bost)

Dosbarthu eich llyfr

Os ydych wedi hunangyhoeddi llyfr, gallwn ddosbarthu eich llyfr i siopau llyfrau trwy ein Canolfan Ddosbarthu, cyn belled â bod gan y llyfr ISBN, cod bar a phris wedi cael eu hargraffu yn rhywle ar y llyfr.

Canolfan Ddosbarthu