Prif nod Sialens Ddarllen yr Haf yw cael plant i barhau i ddarllen drwy gydol gwyliau’r haf gyda digwyddiadau, gweithgareddau a llyfrau gwych – a’r cyfan yn rhad ac am ddim o’u llyfrgell leol.
Mewn partneriaeth â llyfrgelloedd lleol, mae’r Sialens yn darparu ffordd hwyliog a rhad ac am ddim o gadw meddyliau ifanc yn effro, a’u paratoi at ddechreuad gwych i flwyddyn ysgol newydd yn yr hydref.
Gall darllenwyr ifanc 4–11 oed gofrestru yn eu llyfrgell leol neu ar-lein ar sialensddarllenyrhaf.org.uk. Rhaid darllen o leiaf chwe llyfr i gyflawni’r Sialens – beth bynnag sydd yn apelio, boed yn straeon, nofelau graffig, llyfrau ffeithiol neu lyfrau llafar – mae popeth yn cyfri.
Trwy’r Sialens mae plant yn gallu ennill gwobrau, darganfod llyfrau newydd, a derbyn medal a thystysgrif ar ôl iddynt gwblhau’r Sialens.
Darperir Sialens Ddarllen yr Haf gan The Reading Agency. Fe’i cefnogir yng Nghymru gan Gyngor Llyfrau Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. O 2025 ariennir y prosiect hwn gan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm, diolch i Lywodraeth Cymru.
I bwy mae’r Sialens?
Gyda thema newydd bob blwyddyn, mae Sialens Ddarllen yr Haf wedi ei thargedu at blant 4–11 oed. Mae’n cefnogi’r oedran yma a’u teuluoedd drwy:
- Sicrhau bod dysgwyr yn barod pan ddaw’r amser i ddychwelyd i’r ysgol yn yr hydref
- Cefnogi symud i flwyddyn neu gyfnod allweddol newydd
- Gwella hyder a hunan-barch plant wrth gefnogi darllen annibynnol
- Rhoi mynediad am ddim at lyfrau a gweithgareddau hwyliog i’r teulu dros yr haf
Dros 30,000 o blant wnaeth gymryd rhan ledled Cymru yn 2024! Ewch ati i ddysgu mwy am Sialens Ddarllen yr Haf a’n partneriaeth gyda The Reading Agency a llyfrgelloedd: Sialens Ddarllen yr Haf