Mae’r telerau hyn yn berthnasol i’ch defnydd o wefan Cyngor Llyfrau Cymru, gan gynnwys:
- llyfrau.cymru
- books.wales
Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n cytuno i’r telerau hyn.
Defnyddio’r wefan hon
Darperir y wefan hon i roi gwybodaeth gyffredinol am waith Cyngor Llyfrau Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am gynlluniau ariannu, gweithgaredd llenyddol ac adnoddau cysylltiedig.
Cewch ddefnyddio’r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig.
Cywirdeb gwybodaeth
Ein nod yw sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, gall gwybodaeth newid dros amser ac ni ddylid dibynnu arni fel gwybodaeth bendant nac yn gyfreithiol rwymol.
Darperir gwybodaeth am gynlluniau ariannu a cheisiadau am grantiau at ddibenion canllaw yn unig. Caiff ceisiadau am grantiau eu trin ar wahân, ac mae cymhwysedd, meini prawf a phenderfyniadau yn ddarostyngedig i’r prosesau ymgeisio a’r gweithdrefnau asesu perthnasol.
Argaeledd
Rydym yn gwneud ymdrechion rhesymol i gadw’r wefan hon ar gael ac yn rhedeg yn esmwyth. Fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu y bydd y wefan bob amser ar gael neu’n rhydd o wallau, ymyrraeth neu oedi.
Efallai y byddwn yn atal neu’n tynnu’r wefan yn ôl dros dro ar gyfer cynnal a chadw neu ddiweddariadau.
Hawlfraint ac ailddefnyddio cynnwys
Oni nodir yn wahanol, Cyngor Llyfrau Cymru sy’n berchen ar gynnwys y wefan hon.
Gallwch:
- gweld a lawrlwytho cynnwys at ddefnydd personol, anfasnachol
- rhannu dolenni i dudalennau ar y wefan hon
Ni chaniateir:
- atgynhyrchu, ailgyhoeddi neu ailddosbarthu cynnwys at ddibenion masnachol heb ganiatâd
- addasu neu gamliwio cynnwys mewn ffordd a allai fod yn gamarweiniol
Os ydych chi am ailddefnyddio cynnwys mewn ffordd arall, cysylltwch â ni.
Dolenni allanol a chynnwys mewnosodedig
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau allanol a chynnwys wedi’i fewnosod (megis fideos) a ddarperir gan drydydd partïon.
Nid ydym yn gyfrifol am:
- cynnwys gwefannau allanol
- argaeledd gwasanaethau trydydd parti
- sut mae gwefannau trydydd parti yn trin eich data personol
Darperir dolenni er hwylustod a gwybodaeth yn unig.
Atebolrwydd
Nid ydym yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan hon, gan gynnwys dibynnu ar wybodaeth a ddarperir, ac eithrio lle na ellir eithrio atebolrwydd o’r fath o dan y gyfraith.
Newidiadau i’r telerau hyn
Efallai y byddwn yn diweddaru’r telerau hyn o bryd i’w gilydd. Cyhoeddir unrhyw newidiadau ar y dudalen hon.
Cysylltu gyda ni
Os oes gennych gwestiynau am y telerau hyn, cysylltwch â:
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
SY23 2JB
Ebost: post@llyfrau.cymru
Ffôn: 01970 624 151