Amdani

Logo Amdani

Os ydych chi’n dysgu Cymraeg, weithiau mae’n gallu bod yn anodd gwybod ble i ddod o hyd i lyfrau y byddwch yn eu mwynhau, ac sydd ar y lefel iaith sy’n iawn i chi.

Mae cyfres Amdani yn lle gwych i ddechrau, gyda thros 40 o lyfrau a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr Cymraeg newydd. Mae’r gyfres yn cynnwys straeon byrion, rom-coms, nofelau trosedd a llyfrau ffeithiol gan rai o awduron mwyaf poblogaidd Cymru.

Er mwyn eich helpu chi i ddod o hyd i’r llyfr iawn i chi, ac i symud i’r lefel nesa’n hyderus, mae’r llyfrau yn y gyfres wedi eu graddio’n bedair lefel ar gyfer dysgwyr (Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch), a fe’u datblygwyd mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dyma rai o’r teitlau diweddaraf:

  • Mynediad: Rhywun yn y Tŷ? gan Pegi Talfryn
  • Sylfaen: Y Fawr a’r Fach 2 gan Siôn Tomos Owen
  • Canolradd: Hen Ferchetan gan Ewan Smith
  • Uwch: Hanna gan Rhian Cadwaladr

Mae’r llyfrau ar gael o siopau llyfrau neu i’w benthyg o’ch llyfrgell leol. Maen nhw hefyd ar gael fel e-lyfrau neu lyfrau llafar ar ffolio.cymru. Mae eich archeb ar Ffolio yn gallu cefnogi siop lyfrau annibynnol o’ch dewis chi yng Nghymru. Wrth osod eich archeb cofiwch ddewis siop lyfrau yng Nghymru er mwyn iddynt dderbyn comisiwn o’ch pryniant.

Ffolio.cymru (Agor mewn ffenest newydd)

Cewch fwy o wybodaeth am y lefelau dysgu cenedlaethol a’r llyfrau yn y gyfres Amdani o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Adnoddau defnyddiol: Gwefan Canolfan Ddysgu Cymraeg Cenedlaethol (Agor ffenest newydd)

Beth i’w ddarllen nesaf? 

Beth am roi cynnig ar Stori Sydyn? Dyma lyfrau Cymraeg byrion ar gyfer pobl brysur ac fe’u cyhoeddir fel rhan o gynllun Stori Sydyn/Quick Reads. Os ydych chi wedi mwynhau llyfrau cyfres Amdani, mae llyfrau Stori Sydyn yn gam nesa naturiol tuag at ddarllen llyfrau hirach. Yn costio £1 a gydag oddeutu 100 o dudalennau, mae’r llyfrau yn cynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol, gyda theitlau newydd yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn. Stori Sydyn. Beth am gylchgrawn? Mae Lingo Newydd yn gylchgrawn yn arbennig i ddysgwyr, ond os ydych am fynd gam ymhellach mae digon o erthyglau i chi roi cynnig arnynt mewn cylchgronau fel Golwg, Lysh, Cara neu Y Cymro.   Cylchgronau