Cyfleoedd Cyllid a Thendrau Newydd
Tendr cylchgronau Cymraeg 2027-31
Mae’r tendr cylchgronau Cymraeg hon ar agor rhwng 9 Chwefror a 20 Ebrill 2026. Bydd y grantiau newydd yn weithredol o 1 Ebrill 2027 hyd 31 Mawrth 2031 ac yn ddibynnol ar barhad y cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Dyfernir y grantiau yn dilyn cyfarfod mis Mehefin o’r Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi Cymraeg.
Dyma’r dogfennau a chanllawiau perthnasol:
Canllawiau: Tendr Cylchgronau Cymraeg 2027–31 (PDF)
Ffurflen Gais Tendr 2027–31 (Word)
Gwybodaeth Ariannol ar gyfer y Cais (Excel)
Am ragor o fanylion, cysylltwch ag Arwel Jones, Pennaeth yr Adran Datblygu Cyhoeddi, ar arwel.jones@llyfrau.cymru.
Chwilio am gyllid ar gyfer eich cyhoeddiad nesaf?
Mae ein rhaglenni grantiau rheolaidd yn darparu cyllid i gyhoeddwyr ar gyfer cyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg. Os oes gennych brosiect cyhoeddi yr hoffech ei drafod, cysylltwch â’r Adran Datblygu Cyhoeddi. I drafod cyhoeddiadau a deunydd Cymraeg cysylltwch â grantiau.cymraeg@llyfrau.cymru (Agor ebost), ac i drafod cyhoeddiadau a deunydd Saesneg, cysylltwch â english.grants@books.wales (Agor ebost).
Grantiau i gyhoeddiadau cyfrwng Saesneg Grantiau i gyhoeddiadau cyfrwng Cymraeg