Beth yw Gornest Lyfrau / Bookslam?
Cystadleuaeth flynyddol sydd yn annog darllenwyr ifanc Blynyddoedd 3–8 i ddarllen er pleser. Mae Gornest Lyfrau a Bookslam yn annog dysgwyr i drafod y llyfrau maen nhw’n eu darllen a pharatoi fideo creadigol, fel grŵp neu ddosbarth, yn seiliedig ar un o’r llyfrau sydd ar y rhestr ddarllen.
Mae 5 categori a rhestr ddarllen ar gael ar gyfer:
-
Blynyddoedd 3 a 4 cyfrwng Cymraeg
-
Blynyddoedd 5 a 6 cyfrwng Cymraeg
-
Blynyddoedd 7–8 cyfrwng Cymraeg
-
Ysgolion trawsieithol Blynyddoedd 3-6 (ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf ond gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg, ac ysgolion trosiannol)
-
Blynyddoedd 3–6 cyfrwng Saesneg (BookSlam)
Sut mae’n gweithio?
Bydd angen i ysgolion ddewis un llyfr o’r rhestr i’w drafod ac un arall i’w gyflwyno fel hysbyseb. Cynhelir rownd sirol dan ofal y trefnwyr sirol, a bydd yr enillwyr sirol yn mynd ymlaen i’r rownd genedlaethol yn nhymor yr haf.
Bydd yr ysgolion buddugol yn ennill tlws arbennig ynghyd ag un o’r gwobrau canlynol;
- Gwobr 1af – gwerth £200 o lyfrau
- 2ail wobr – gwerth £150 o lyfrau
- 3ydd wobr – gwerth £100 o lyfrau
Mae mwy o wybodaeth am y rowndiau sirol a chenedlaethol yn ein Pecynnau Cofrestru, Canllawiau a Phecynnau Gweithgareddau.
Pecynnau Cofrestru
Pecyn Cofrestru Gornest Lyfrau Blynyddoedd 3 a 4 cyfrwng Cymraeg (PDF)
Pecyn Cofrestru Gornest Lyfrau Blynyddoedd 5 a 6 cyfrwng Cymraeg (PDF)
Pecyn Cofrestru Gornest Lyfrau Blynyddoedd 7 a 8 cyfrwng Cymraeg (PDF)
Pecyn Cofrestru Gornest Lyfrau Ysgolion trawsieithol Blynyddoedd 3–6 (PDF)
Pecyn Cofrestru BookSlam Blynyddoedd 3–6 cyfrwng Saesneg (PDF)
Canllawiau Sirol
Canllawiau Sirol Gornest Lyfrau cyfrwng Cymraeg (PDF)
Canllawiau Sirol Gornest Lyfrau cyfrwng Cymraeg Uwchradd (PDF)
Canllawiau Sirol Gornest Lyfrau Trawsieithol (PDF)
Canllawiau Sirol BookSlam cyfrwng Saesneg (PDF)
Canllawiau Cenedlaethol
Canllawiau Cenedlaethol Gornest Lyfrau cyfrwng Cymraeg (PDF)
Canllawiau Cenedlaethol Gornest Lyfrau cyfrwng Cymraeg Uwchradd (PDF)
Canllawiau Cenedlaethol Gornest Lyfrau Trawsieithol (PDF)
Canllawiau Cenedlaethol BookSlam cyfrwng Saesneg (PDF)
Pecynnau Gweithgareddau
Pecyn Gweithgareddau Gornest Lyfrau cyfrwng Cymraeg Blwyddyn 3 a 4 (PDF)
Pecyn Gweithgareddau Gornest Lyfrau cyfrwng Cymraeg Blwyddyn 5 a 6 (PDF)
Pecyn Gweithgareddau Gornest Lyfrau cyfrwng Cymraeg Uwchradd (PDF)
Pecyn Gweithgareddau Gornest Lyfrau Trawsieithol (PDF)
Pecyn Gweithgareddau BookSlam cyfrwng Saesneg (PDF)
Manteision Allweddol
- Annog plant i wirioni ar ddarllen a mwynhau llyfrau da.
- Meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddarllen.
- Cefnogi datblygiad llythrennedd emosiynol a meithrin sgiliau trafod, cyfathrebu a dadansoddi.
- Cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm trwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau i unigolion a grwpiau ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad.
- Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o lyfrau, awduron a dalunwyr.
- Dathlu safon eithriadol ym maes llenyddiaeth plant.
Cofrestrwch i’r gystadleuaeth Gornest Lyfrau / Bookslam
Gall ysgolion gofrestru gyda’u trefnydd lleol erbyn 05 Rhagfyr 2025. (Cofrestru wedi cau)
Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â plant@llyfrau.cymru.