Dosbarthu

Golygfa o Ganolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru yn dangos rhesi o silffoedd llyfrau

Mae Canolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru yn darparu gwasanaethau dosbarthu a chyfanwerthu ar gyfer y fasnach lyfrau yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Gweithredir ar fodel nid-er-elw, yn ailfuddsoddi incwm er mwyn darparu a rhoi gwasanaethau gyda chymhorthdal i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Mae gennym ffocws cryf ar deitlau o ddiddordeb Cymreig, yn Gymraeg a Saesneg, ac mae gennym ddiddordeb mewn dal perthynas fusnes hirdymor â chyhoeddwyr sy’n gallu cynnig telerau cyfanwerthol safonol y diwydiant.

Cefnogi Cyhoeddwyr – cael eich llyfrau i ddarllenwyr

Ein nod yw cael eich llyfrau wedi’u dosbarthu’r diwrnod nesaf i siopau llyfrau sy’n archebu cyn hanner dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener (er na allwn warantu hyn ar adegau prysur). Mae gennym gysylltiadau gyda dosbarthwyr a phlatfformau eraill yn y DU ac yn rhyngwladol, er mwyn sicrhau bod eich llyfrau ar gael yn fyd-eang. Os hoffech chi drafod dosbarthu a gwerthiant eich llyfrau gallwch gysylltu â ni ar gwerthu@llyfrau.cymru (Agor ebost) neu ffoniwch 01970 624455.

Gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan y Ganolfan Ddosbarthu

  • Warws a rheoli stoc 

  • Prosesu a chyflawni archebion 

  • Platfform gwerthu ar-lein: ffolio.cymru 

  • Data ac adroddiadau 

  • Archebion rhyngwladol 

Grantiau a chefnogaeth ariannol i gyhoeddwyr

Rydym hefyd yn cynnig grantiau a chefnogaeth ariannol i gyhoeddwyr Grantiau i Gyhoeddwyr

Cefnogi siopau – yn cadw eich addewidion

Mae eich cwsmeriaid yr un mor bwysig i ni ag y maen nhw i chi. Ein nod yw cynnig dosbarthu diwrnod nesaf i siopau llyfrau sy’n archebu cyn hanner dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener (er na allwn warantu hyn ar adegau prysur). Does dim tâl cludiant ar gyfer archebion dros £83.33 (gwerth net yr anfoneb). Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer pob teitl sydd gennym mewn stoc, a gwirio argaeledd, ar wefan Gwales (Agor mewn ffenest newydd).

Gwasanaethau i lyfrwerthwyr

  • Dosbarthu diwrnod nesaf (lle bo hynny’n gymwys)
  • Cludo i’r cartref
  • Deunydd hyrwyddo a marchnata
  • Cyngor a gwybodaeth gwerthiant

Os hoffech gofrestru i dderbyn diweddariadau trwy e-bost, cysylltwch â ni: gwerthu@llyfrau.cymru (Agor ebost)

Agor Cyfrif Masnachol

Os hoffech greu Cyfrif Masnach gyda’n Canolfan Ddosbarthu, mae modd gwneud hynny wrth lenwi’r ffurflen isod. Unwaith bydd eich cyfrif wedi’i agor, bydd modd i chi archebu drwy ein Gwefan Masnach (Agor mewn ffenest newydd)

Agor Cyfrif Masnach (Agor Ffurflen Microsoft)

Os hoffech chi drafod gosod archeb, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag agor cyfrif, cysylltwch â canolfan.ddosbarthu@llyfrau.cymru (Agor ebost) neu ffoniwch ni ar 01970 624455. 

Cefnogaeth bellach i lyfrwerthwyr

Rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cefnogi llyfrwerthwyr. Cyllid ar gyfer llyfrwerthwyr

Cefnogi awduron hunangyhoedddig – dosbarthu eich llyfr 

Os ydych wedi hunangyhoeddi llyfr, gallwn ddosbarthu eich llyfr i siopau llyfrau drwy ein Canolfan Ddosbarthu, cyn belled â bod gan y llyfr ISBN, y pris a chod bar wedi eu hargraffu ar y llyfr.  

Dyma grynodeb o’r telerau ac amodau safonol: 

Mae siopau llyfrau fel arfer yn derbyn gostyngiad o o leiaf 35% oddi ar bris manwerthu’r llyfr. Er mwyn cynnal costau rhestru, storio, casglu, pacio a thâl postio, mae’r Ganolfan Ddosbarthu yn cymryd 20% oddi ar y pris manwerthu. Mae hyn yn golygu mai cyfanswm y gost i awduron hunangyhoeddedig ar gyfer defnyddio ein gwasanaethau dosbarthu yw 55% oddi ar y pris manwerthu pob copi.  

Rhaid sicrhau bod ISBN, cod bar a’r pris wedi eu hargraffu ar y llyfr. (Ni allwn dderbyn llyfrau heb god bar nac ISBN). 

Y cam cyntaf yw anfon copi o’ch llyfr, a’ch cyfeiriad e-bost, atom ni: Canolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru, Uned 16 Parc Menter Glanyrafon, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3AQ. 

Pe byddem yn cytuno stocio eich llyfr, byddwn yn anfon dau gytundeb atoch, ac yn rhoi gwybod faint o stoc ddechreuol y gallem ei chymryd. 

Yn unol â threfn yr holl lyfrau rydym yn eu dosbarthu, mae llyfrau’n cael eu dosbarthu i siopau ar sail gwerthu neu ddychwelyd llawn. 

Os nad ydym yn cytuno i stocio eich llyfr, neu os nad ydych yn derbyn y telerau hyn, byddem hefyd yn gallu rhestru’r teitl am ddim ar ein gwefan Gwales.com (Agor mewn ffenest newydd) er mwyn rhoi’r opsiwn i gwsmeriaid ei brynu gennych chi yn uniongyrchol. (Mae rhaid i chi ddarparu manylion cyswllt ar gyfer hyn.)

Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Ddosbarthu trwy e-bost gwerthu@llyfrau.cymru (Agor ebost) neu ffôn 01970 624455.

Cefnogaeth i awduron