Golygu

Aelod o staff Cyngor Llyfrau Cymru wrth ei gwaith wrth ymyl cyfrifiadur, ac yn defnyddio cyfeirlyfr.Member of Books Council staff at work at her computer, and using reference book.

Mae’r tîm golygyddol yn cynnig gwasanaeth golygyddol gyda chymhorthdal ar gyfer deunydd Cymraeg a Saesneg, i olygu teipysgrifau a chywiro proflenni. Rydym yn gweithio’n bennaf gyda deunydd darllen hamdden ac yn delio â hyd at 180 o deipysgrifau bob blwyddyn.

Rydym yn darparu’r gwasanaethau hyn ar gyfer oddeutu 20 o gyhoeddwyr yng Nghymru, gan fanteisio ar gymorth tîm bychan o olygyddion allanol profiadol yn ôl yr angen.

Rhoddir blaenoriaeth bob amser i lyfrau sydd wedi derbyn grantiau cyhoeddi gan y Cyngor Llyfrau. Noder: nid ydym yn ymdrin â deunydd addysgol.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: golygyddol@llyfrau.cymru neu ffoniwch 01970 629561