Adrannau

Swyddfa’r Prif Weithredwr

Penodwyd Helgard Krause yn Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru ym mis Ebrill 2017, ac mae hi’n adrodd i Gadeirydd a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae hi’n gyfrifol am arwain a gosod cyfeiriad strategol y Cyngor Llyfrau ac am eirioli dros y sector gyda Llywodraeth Cymru a Cymru Greadigol, ein prif gyllidwyr.

Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru

Yn wreiddiol o’r Almaen ac yn amlieithog, mae gan Helgard gyfoeth o brofiad ym maes cyhoeddi academaidd, proffesiynol, darluniadol a masnachol.

Dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi yn y diwydiant llyfrau gyda chwmni Routledge, gan weithio am flwyddyn yn Rwsia. Bu’n Bennaeth Gwerthu a Hawliau ar gyfer cyhoeddwyr Rockport / RotoVision yn Brighton, cyn ymuno â’r Cyngor Llyfrau yn 2005 fel Swyddog Gwerthiant Rhyngwladol i ddechrau, ac yna’n Bennaeth Gwerthu a Marchnata.

O 2010 i 2017 bu’n Bennaeth Gwasg Prifysgol Cymru, cyn dychwelyd i’r Cyngor Llyfrau i ymgymryd â swydd y Prif Weithredwr.

Mae Helgard yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn 2021 ymunodd â Gorsedd Cymru am ei chyfraniad i’r Celfyddydau yng Nghymru.

Mae Helgard a’i Huwch Dîm Rheoli yn arwain yr adrannau canlynol:

Adrannau eraill o fewn y Cyngor Llyfrau

Datblygu Cyhoeddi

Rydym yn dosbarthu arian o Lywodraeth Cymru ar ffurf grantiau i gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau yn Gymraeg a Saesneg. Ein nod yw cefnogi cyhoeddi cynnwys o ansawdd uchel yn Gymraeg a Saesneg, a sicrhau bod y deunydd ar gael yn eang i ddarllenwyr. Mae ein tîm golygyddol yn cefnogi cyhoeddwyr gyda gwasanaethau golygu copi a phrawfddarllen.

Pennaeth Datblygu Cyhoeddi: R. Arwel Jones 

Cyswllt Datblygu Cyhoeddi Cymraeg: grantiau.cymraeg@llyfrau.cymru (Agor e-bost)

Cyswllt Datblygu Cyhoeddi Saesneg: english.grants@books.wales (Agor e-bost) 

Ariannu

Mwy am ein gwasanaethau golygu

Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen

Rydym yn hyrwyddo darllen er pleser ac yn dathlu grym trawsnewidiol darllen. Rydym yn cynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo darllen, ac yn darparu adnoddau i ysgolion a chefnogaeth i athrawon i ymgorffori darllen fel rhan o fywyd ysgol bob dydd. Wrth weithio gydag ysgolion, llyfrgelloedd, siopau llyfrau a phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt, rydym yn ymdrechu i helpu plant, pobl ifanc a darllenwyr o bob oedran i ddarganfod cariad at ddarllen.

Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen: Bethan Jones 

Cysylltwch â’r tîm: plant@llyfrau.cymru (Agor e-bost)

Cefnogaeth i ysgolion

Cefnogaeth i lyfrgelloedd

Sut yr ydym yn dathlu darllen er pleser

Canolfan Ddosbarthu

Ein Canolfan Ddosbarthu nid-er-elw yw calon y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Fe’i lleolir ym Mharc Menter Glanyrafon, ychydig filltiroedd o ganol tref Aberystwyth, ac mae’n gartref i oddeutu miliwn o lyfrau. Mae gennym ffocws cryf ar lyfrau o Gymru ac am Gymru yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn dosbarthu a chyfanwerthu llyfrau a chylchgronau ar ran cyhoeddwyr ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r Ganolfan yn hunanariannu ac nid yw’n derbyn unrhyw gymhorthdal cyhoeddus ar gyfer ei gweithrediadau o ddydd i ddydd.

Pennaeth y Ganolfan Ddosbarthu: Arwel Evans

Cysylltwch â’r tîm: distribution.centre@books.wales (Agor e-bost)

Agor cyfrif masnach

Mwy am y Ganolfan Ddosbarthu

Gwerthu a Gwybodaeth

Mae ein tîm gwerthu yn gyfrifol am werthiant i siopau a manwerthwyr. Rydym yn helpu siopau llyfrau gyda chefnogaeth, cyngor ac arian ar gyfer digwyddiadau ymestyn, yn ogystal â chynnal gweithgareddau hyrwyddo, sy’n cynnwys Llyfrau’r Mis a chynhyrchu catalogau megis Llyfrau’r Gaeaf.

Rydym yn rheoli ein platfform gwerthu ar-lein, ffolio.cymru ar gyfer prynu llyfrau o Gymru arlein ym mhob fformat. Mae modd cefnogi siop lyfrau annibynnol gyda phob archeb.

Cysylltwch â’r tîm: sales@books.wales (Agor e-bost)

Mwy am wasanaethau i siopau llyfrau

Cyfathrebu, Marchnata a Dylunio

Rydym yn gweithio i adrodd straeon ein sector, hysbysebu grantiau a chyfleoedd, a dathlu llyfrau a darllen. Rydym yn cefnogi siopau llyfrau, cyhoeddwyr a llyfrgelloedd, ac yn gweithio gyda phartneriaid ar ymgyrchoedd megis Diwrnod y Llyfr, Diwrnod Siopau Llyfrau a Darllen yn Well i helpu darllenwyr ledled Cymru i ddarganfod eu llyfr nesa.

Mae ein tîm dylunio yn cynnig gwasanaeth dylunio i gyhoeddwyr: i greu cloriau, dylunio llyfrau cyfan neu i ddarparu deunydd gweledol ar gyfer llyfrau.

Pennaeth CyfathrebuMarchnata a Dylunio: Deborah Wood

Cysylltwch â’r tîm drwy ddefnyddio ein ffurflen ymholiadau Newyddion diweddaraf Mwy am ein gwasanaethau dylunio

Cyllid a Llywodraethiant

Rydym yn gweithio’n agos â chydweithwyr yr holl adrannau er mwyn sicrhau bod y Cyngor Llyfrau yn gweithredu’n effeithiol ym mhob agwedd o’n gwaith, yn sicrhau arferion caffael cadarn a gwerth am arian.

Ysgrifenyddes Bersonol i’r Prif Weithredwr a Swyddog Llywodraethiant: Menai Lloyd Williams

Rheolwr Cyllid a Busnes: Rhian Davies

Cysylltwch â’r tîm: accounts@books.wales (Opens email)

Mwy am Lywodraethiant