Rydym yn derbyn arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol i’w ddosbarthu ar ffurf grantiau i’r diwydiant cyhoeddi.
Mae ein grantiau craidd yn cefnogi cynhyrchu llyfrau a chylchgronau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ein nod yw cefnogi cyhoeddi deunydd o ansawdd uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan sicrhau bod y deunydd hwnnw ar gael yn eang i ddarllenwyr.
Nid ydym yn gweinyddu grantiau’n uniongyrchol i awduron unigol ond yn hytrach yn sianelu cefnogaeth i awduron drwy’r tai cyhoeddi.
Cyllid a gwybodaeth
Os ydych chi’n gyhoeddwr sy’n chwilio am gyllid ar gyfer llyfrau neu gylchgronau, neu’n siop lyfrau annibynnol, gallwch ddysgu mwy am gyfleoedd grant ar y dudalen hon.
Grantiau i gyhoeddwyr
Cymorth ariannol a chreadigol i gyhoeddwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Cyllid ar gyfer cylchgronau
Cymorth ariannol i gylchgronau a gyhoeddir yng Nghymru.
Cyllid ar gyfer llyfrwerthwyr
Cymorth ariannol i lyfrwerthwyr yng Nghymru.
Gwybodaeth i awduron
Cymorth ariannol a chreadigol i gyhoeddwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Cyfleoedd ariannu a thendrau newydd
Pan fydd rowndiau ariannu newydd ar agor ar gyfer ceisiadau neu pan fydd grantiau ar gael ar gyfer prosiectau arbennig, gallwch ddod o hyd i fanylion ar y dudalen Cyfleoedd Ariannu Newydd a Thendrau.
Tendrau a chyfleoedd
Tendrau a chyfleoedd cyfredol.