Cynllun ymestyn
Gallwn ddarparu cymorth ariannol i lyfrwerthwyr i helpu gyda chostau cynnal digwyddiadau allgymorth i hyrwyddo a gwerthu llyfrau yng Nghymru. Gall hwn fod yn ddigwyddiad megis lansiad llyfr, stondin yn eich ffair ysgol leol, marchnad Nadolig, gŵyl haf, neu’n ddigwyddiad cenedlaethol megis y Sioe Frenhinol neu’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r cynllun hefyd yn cefnogi llyfrwerthwyr i gynnal digwyddiadau yn y siop y tu hwnt i’w horiau agor arferol.
Yn ogystal â’r grant, gall ein tîm gwerthu hefyd gynnig cyngor ar deitlau addas ar gyfer y digwyddiad, sy’n cael eu cynnig ar sail gwerthu neu ddychwelyd, pan fyddant wedi eu trefnu ymlaen llaw gyda’r Ganolfan Ddosbarthu.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Siopau llyfrau sy’n masnachu o leoliad siop ac sydd ar agor am oleiaf dridiau’r wythnos sy’n gymwys ar gyfer y cynllun. Rhaid cyflwyno cais am grant cyn y digwyddiad. Os hoffech chi drafod eich digwyddiad, neu dderbyn copi o’r criteria a’r Telerau ac Amodau, cysylltwch â gwenan.jones@llyfrau.cymru