Sialens Ddarllen yr Haf

Nod Sialens Ddarllen yr Haf ydy cadw plant yn darllen dros wyliau’r haf, gyda digwyddiadau, gweithgareddau a llyfrau gwych – a’r cyfan ar gael am ddim o lyfrgelloedd lleol. 

Mewn partneriaeth â llyfrgelloedd lleol, mae’r sialens yn darparu ffordd hwyliog o gadw meddyliau ifanc yn effro, yn barod am ddechreuad gwych i flwyddyn ysgol newydd yn yr hydref.  

Gall ddarllenwyr ifanc 4-11 oed gofrestru yn eu llyfrgell leol neu ar-lein ar sialensddarllenyrhaf.org.uk. Rhaid darllen o leiaf chwe llyfr i gyflawni’r sialens – beth bynnag sydd yn apelio! Boed yn straeon, nofelau graffig, llyfrau ffeithiol neu lyfrau llafar – mae popeth yn cyfri. 

Yn ystod y sialens cewch ddatgloi gwobrau a darganfod llyfrau newydd, a chael medal a thystysgrif ar ôl cyflawni’r her.  

Darperir Sialens Ddarllen yr Haf gan The Reading Agency. Fe’i cefnogwyd yng Nghymru gan Gyngor Llyfrau Cymru, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru. O 2025 ariennir y prosiect hwn gan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm, diolch i Adran Addysg Llywodraeth Cymru. 

Pwy syn gallu cymryd rhan? 

Gyda thema newydd bob blwyddyn, mae Sialens Ddarllen yr Haf wedi ei thargedu at blant 4–11 oed. Mae’n cefnogi’r oedran yma a’u teuluoedd drwy: 

  • Sicrhau bod dysgwyr yn barod pan ddaw’r amser i ddychwelyd i’r ysgol yn yr hydref 
  • Cynorthwyo’r pontio llwyddiannus rhwng grwpiau blwyddn a chyfnodau allweddol 
  • Gwella hyder a hunan-barch plant wrth gefnogi darllen annibynnol 
  • Rhoi mynediad am ddim at lyfrau a gweithgareddau hwyliog i’r teulu dros yr haf  

Athrawon – dysgwch fwy am Sialens Ddarllen yr Haf yn ein Canllaw Darllen Er Pleser

Canllaw Darllen Er Pleser (PDF, 20 MB)

Sialens Ddarllen yr Hayng Nghymru  2024 

Yng Nghymru, bu 34,206 o bobl yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf yn ystod gwyliau’r ysgol yn 2024, drwy eu llyfrgelloedd ac ar-lein. ‘Crefftwyr Campus’ oedd y thema.  

Nod y cynllun yw helpu atal y gostyngiad mewn darllen dros yr haf y mae llawer o blant yn ei brofi pan nad ydynt yn yr ysgol, yn ogystal â helpu i gynnal eu sgiliau a’u hyder wrth ddarllen.  

Gyda phwysau cynyddol ar y system llyfrgelloedd cyhoeddus o ran staffio ac adnoddau, mae’n galonogol bod llyfrgelloedd yn al i allu cynorthwyo llawer iawn o blant i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf, gyda 45% o gyfranwyr yn mynd yn eu blaenau i gwblhau’r sialens o ddarllen chwech neu ragor o lyfrau. Dyma grynodeb o Sialens Ddarllen yr Haf 2024 yng Nghymru mewn rhifau: 

    • 34,206 o bobl ledled Cymru wedi cymryd rhan

    • 27,207 o blant rhwng 4-11 oed wedi cymryd rhan drwy ymweld â’u llyfrgell leol (10% o blant rhwng 4–11 oed yng Nghymru)

    • 15,440 o blant wedi cyflawni’r sialens (45%)

    • 3,189 plant o dan 3 oed wedi cymryd rhan gyda deunyddiau cyn-ysgol arbennig

    • 983 o gyfranwyr 12 oed ac uwch wedi cymryd rhan trwy eu llyfrgell leol

    • Darllenwyd 796,892 o lyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar gan blant

    • Ymunodd 5,506 o blant â’r llyfrgell yn aelodau newydd

  • Bu 30,678 o bobl mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau mewn llyfrgelloedd 

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf, ewch i wefan The Reading Agency.

Gwefan Sialens Ddarllen yr Haf The Reading Agency (agor mewn ffenest newydd)