Rhyngom

Awduron prosiect Rhyngom yn sefyll gyda'r llyfrau mae nhw wedi ei hysgrifennu

Plethu pobl trwy lyfrau

Rydym wedi bod yn gweithio gyda chyhoeddwyr a phartneriaid ledled Cymru i gyhoeddi mwy o lyfrau darllen er pleser sy’n dathlu ac yn hyrwyddo amrywiaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Llyfrau newydd i blant a phobl ifanc

Ariannwyd y prosiect tair blynedd, £810,000 hwn gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru, ac Adnodd. Mae wedi cefnogi creu llyfrau gwreiddiol newydd yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal ag addasiadau o lyfrau Saesneg i’r Gymraeg, er mwyn creu llyfrau sy’n adlewyrchu mwy o’n straeon, ein pobl a’n cymunedau ni.

Mae darllen er pleser yn bwysig ar gyfer cefnogi iechyd a lles plant a phobl ifanc, ac ar gyfer datblygu eu dychymyg a sgiliau llythrennedd; buddion sy’n cefnogi nodau a darparu’r Cwricwlwm i Gymru ac sy’n cyfrannu at gyflawniadau addysgol.

Mae adnoddau addysg yn cyd-fynd â holl lyfrau’r gyfres, er mwyn galluogi athrawon a dysgwyr i archwilio’r themâu a’r cwestiynau sy’n codi ynddynt yn fwy trylwyr. Mae pob ysgol wladol yng Nghymru wedi derbyn cyflenwad o’r llyfrau a’r adnoddau addysg am ddim i’w defnyddio yn y dosbarth.

Gweithio gyda’n gilydd

Rydym yn hynod ddiolchgar i’n partneriaid niferus sydd wedi cyfrannu eu profiad a’u harbenigedd drwy gydol y prosiect hwn, a oedd yn gyd-gynhyrchiad; gan gynnwys aelodau ein panel a helpodd ddewis y llyfrau i’w haddasu; y mentoriaid a’r darllenwyr sensitifrwydd a gefnogodd yr awduron; y panel a greodd yr adnoddau addysg; ac, wrth gwrs, y cyhoeddwyr ledled Cymru am gefnogi’r prosiect, a’r awduron eu hunain.

Diolch i:

  • Adran Addysg Llywodraeth Cymru
  • Adnodd
  • Anabledd Cymru
  • Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani
  • DARPL
  • Hanes Pobl Dduon Cymru
  • Race Council Cymru
  • Stonewall Cymru

Awduron newydd, llyfrau newydd

Mae’r llyfrau newydd yn cynnwys gweithiau gan rai sy’n ysgrifennu am y tro cyntaf yn ogystal ag awduron cydnabyddedig. Un o’r prif amcanion wrth gomisiynu llyfrau gwreiddiol Cymraeg a Saesneg fel rhan o’r cynllun hwn oedd sicrhau cyfleoedd cyhoeddi i awduron a darlunwyr o gefndiroedd a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli. Cefnogwyd rhai awduron newydd i weithio gyda mentor, neu i gyd-awduro gydag awdur mwy profiadol.

Llyfrau newydd a gyhoeddwyd

The Ranch at the End of the World / Y Ransh ym Mhen Draw’r Byd
Emma Bettridge
Addasiad gan Sioned Erin Hughes
Graffeg

A History of My Weird / Hanes fy Hynodrwydd
Chloe Heuch
Addasiad gan Mared Llwyd
Firefly

Young. Welsh. Proud. / Cymry. Balch. Ifanc.
Awduron amrywiol 
Golygwyd gan Megan Angharad Hunter a Llŷr Titus
Rily

Megs / Megs
Meleri Wyn James
Y Lolfa

The Street Food Festival / Bwyd y Stryd, Bwyd y Byd
Gail Segueira
Addasiad gan Joanna Davies
Atebol

We are Wales / Ein Cymru Ni
Chantelle Moore, Gail Segueira, Haf Llywelyn, Richard Parks
Addasiad gan Manon Steffan Ros
Atebol

Zac and Jac / Zac a Jac
Cathy Jenkins
Addasiad gan Ceri Wyn Jones
Graffeg

20 Colourful People of Wales / 20 o Bobl Liwgar Cymru
Natalie Jones
Y Lolfa

Colours of Home / Cartref o Liw
Miriam Latimer
Addasiad gan Anwen Pierce
Graffeg

The Winter Festival / Gŵyl y Gaeaf
Rebecca Wilson
Rily

Addasiadau Cymraeg 

Erbyn gwanwyn 2025 cyhoeddwyd addasiadau Cymraeg o 28 o deitlau Saesneg sy’n hyrwyddo a dathlu amrywiaeth – yn eu plith, teitlau sydd wedi ennill gwobrau fel y Diverse Book Award – ac maent ar gael i’w prynu mewn siopau llyfrau.

Addasiadau a gyhoeddwyd

Y Ferch â Dau Dad
Mel Elliott
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce

Fy Bindi
Gita Varadarajan
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce

Polonius Merlyn y Pwll Glo

Richard O’Neill

Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce

Antur Taid a Fi
Harry Woodgate
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce

Julian yn y Briodas
Jessica Love
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mari George

Y Gwaith Cartref Coll
Richard O’Neill
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Bethan Mair

Diwali Binny
Thrity Umrigar
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Casia Wiliam

Beth Ddigwyddodd i ti?
James Catchpole
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Aneirin Karadog

Llygaid sy’n Cusanu yn y Corneli
Joanna Ho
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Casia Wiliam

Y Byddarwr
Cece Bell
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Megan Angharad Hunter

Llwybr Llanast
Burhana Islam
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Rhys Iorwerth

Pan Fydd Drysau’n Cau
Miriam Halahmy
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Rhys Iorwerth

Y Pafi a’i Ehedydd
Siobhan Dowd
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gwennan Williams

Y Glas Prydferthaf
Ibtihaj Muhammad, S.K.Ali
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Catrin Evans-Thomas

Dyma’n Teulu Ni
Patricia Hegarty
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Tegwen Bruce-Deans

Stryd Nici a Ffion Wyn
Ben Andrews
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Ifan Erwyn

Un o blant y Windrush
Benjamin Zephaniah
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Rhys Iorwerth

Dydy Danny Chung a Maths Ddim yn Ffrindiau
Maise Chan
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Iwan Huws

Melys, Moes, Mangos
Kereen Getten
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gwenno Hughes

Rhyw Fath o Sbarc
Elle McNicoll
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Manon Steffan Ros

Fi Fy Nhad a Phen Draw’r Enfys
Benjamin Dean
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Llinos Dafydd

Gormod o ddyn
Malorie Blackman
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Manon Steffan Ros

Balch Ohona I
Sarah Hagger-Holt
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Manon Steffan Ros

Y Fflamingo Du
Dean Atta
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Llinos Dafydd

Croen y Cefnfor
Natasha Bowen
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mared Roberts

Y Trysor o dan y Ffatri Jam
Chrissie Sains
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mared Llwyd

Tu Hwnt i’r Llygaid
Penny Joelson
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gwenno Hughes

Daear Dyner
Sita Brahmachari
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Meinir Wyn Edwards

Adnoddau ar gyfer ysgolion

Mae adnoddau addysg ar gyfer yr holl lyfrau a gyhoeddwyd fel rhan o gynllun Rhyngom ar gael mewn print neu ar ffurf ddigidol, yn roi cymorth ychwanegol gwerthfawr i athrawon.

Rhan olaf y prosiect, yn yr hydref 2025, oedd cynllun anrhegu i ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru. Mae pob ysgol gynradd wladol wedi derbyn copi am ddim o’r llyfrau i ddarllenwyr 3–11 oed, a phob ysgol uwchradd wladol wedi derbyn copi o’r llyfrau i ddarllenwyr 8–16 oed. Mae ysgolion hefyd wedi derbyn yr adnoddau addysg.