Beth rydym yn ei wneud?
Rydym yn caru llyfrau a darllen. Rydym yn cefnogi cyhoeddwyr a siopau llyfrau ledled Cymru fel bod gan bob un ohonom fynediad at lyfrau a chylchgronau newydd, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, llyfrgelloedd, siopau llyfrau a phartneriaid eraill i gael llyfrau i ddarllenwyr o bob oedran, ac i helpu pawb i ddod o hyd i’w llyfr nesaf.
Nid oes gennym unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd.
Sut beth yw gweithio yma?
Mae ein timau wedi eu lleoli ar draws dau safle yn Aberystwyth, gyda rhai pobl yn gweithio o bell. Mae’r swyddfa yng Nghastell Brychan yn gartref i Adran Datblygu Cyhoeddi, Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, a rhai swyddogaethau canolog eraill. O’r swyddfa hon mae golygfeydd hyfryd o’r dref, gan ymestyn ymhell i’r môr, ac mae’r daith i fyny’r bryn yn werth ei gwneud – os nad yw’n bwrw glaw!
Lleolir ein Canolfan Ddosbarthu ym Mharc Menter Glanyrafon. Rydym yn cadw oddeutu miliwn o lyfrau mewn stoc ar unrhyw adeg, ac yn dosbarthu llyfrau a chylchgronau ar ran cyhoeddwyr ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Dyma gartref ein hadrannau Gwasanaeth Cwsmer, Gwerthiant a Logisteg.
Cymraeg yw ein hiaith bob dydd. Mae’r rhai ohonom ni sydd wedi dysgu’r iaith (ac mae nifer ohonom, gan gynnwys Helgard, ein Prif Weithredwr) yn cael cyfle i’w defnyddio’n rheolaidd. Mae digonedd o gefnogaeth ar gael hefyd os ydych yn awyddus i wella eich sgiliau iaith.
Er ein bod ni’n dîm bach yn y Cyngor Llyfrau, rydym yn darparu ystod eang o weithgareddau. Dyma’r math o waith y gallech chi gymryd rhan ynddo:
- Adnoddau i ysgolion
- Cefnogi cyhoeddwyr
- Cyfathrebu
- Cyllid
- Digwyddiadau
- Dosbarthu
- Dylunio
- Golygu
- Grantiau
- Gwasanaeth cwsmer
- Gwerthiant
- Logisteg
- Marchnata
- Partneriaethau
- Prawfddarllen
- Rheoli cyfrifon
- Rheoli prosiect
- Warws
Rydym yn mynychu ffeiriau gyrfaoedd mewn prifysgolion a cholegau yn rheolaidd i siarad am gyfleoedd yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y maes cyhoeddi ac yn awyddus i ddysgu mwy am gyfleoedd gyrfa a’r math o waith sydd ar gael, mae croeso i chi gysylltu â ni am sgwrs.
Cyfleoedd ariannu
Rydym yn cefnogi’r diwydiant cyhoeddi gyda grantiau, ac weithiau – pan fydd cyllid ychwanegol ar gael – drwy brosiectau arbennig. Gallwch ddarganfod mwy am y cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd ar ein tudalennau grant: