Sefydlwyd Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru yn 1995 i hyrwyddo ein gwaith a chefnogi’r diwydiant llyfrau yng Nghymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn hynod ddiolchgar am haelioni a chefnogaeth barhaus y Cyfeillion, sy’n gwneud cyfraniad pwysig i’n gwaith. Wrth ddod yn aelod, byddwch yn ymuno â chymuned sy’n caru llyfrau ac sy’n angerddol am gefnogi cyhoeddwyr a siopau llyfrau.
Fel aelod, byddwch yn derbyn
- Tri phecyn gwybodaeth y flwyddyn
- Copïau rheolaidd o Caru Llyfrau, cylchlythyr y Cyfeillion
- Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig
- Taleb gwerth £2.50 ym mhob pecyn, i’w defnyddio fel cyfraniad tuag at lyfr o’ch dewis
- Copïau o gatalogau llyfrau a gyhoeddir gan y Cyngor Llyfrau, yn ogystal â chatalogau a rhestrau a baratoir gan wahanol gyhoeddwyr yn rhestru eu llyfrau diweddaraf.
Sut i ymuno
Mae ffi aelodaeth yn £15 y flwyddyn, neu’n £125 am aelodaeth deng mlynedd. Gallwch gysylltu â ni drwy ebostio post@llyfrau.cymru am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno.
Am y Cyfeillion
Swyddogion Cyfeillion y Cyngor Llyfrau yw:
Cadeirydd: Ion Thomas
is-Gadeirydd: Bethan Gwanas
Ysgrifennydd: Ian Lloyd Hughes
Pwyllgor Llywio:
Marian Delyth
Meinir Pierce Jones
Dyfrig Davies
Cefnogi ein gwaith
Noddodd y Cyfeillion gystadleuaeth a gynhaliwyd yn 2019 i ddod o hyd i syniadau newydd ar gyfer nofelau Cymraeg i oedolion ifanc. Rhoddwyd gwobr o £1,000 yn hael gan y Cyfeillion, a’r enillydd oedd Seran Dolma gyda’i nofel Y Nendyrau. Cyhoeddwyd y nofel gan Wasg y Bwthyn yn 2023.