Cyfieithu

Support for translating and adapting publications

Nid ydym yn cynnig grantiau ar gyfer cyfieithu. Fodd bynnag, rydym yn darparu rhywfaint o gyllid i’r cyhoeddwyr a gefnogir i gynhyrchu addasiadau Cymraeg o lyfrau plant.

Ffynonellau eraill o gymorth

Gellir hefyd gysylltu â chyrff cenedlaethol eraill sy’n cynnig cymorth a chefnogaeth i gyfieithwyr yn y maes llenyddol:

Llenyddiaeth Cymru

Mae cyfieithwyr llenyddol yn gymwys i ymgeisio am ysgoloriaethau. Nid yw’r grantiau hyn ar gael i gyhoeddwyr.

Gwefan Llenyddiaeth Cymru (Agor mewn ffenest newydd)

Cyfnewidfa Lên Cymru

Mae’r corff hwn yn cynnig grantiau tuag at gyfieithu llenyddiaeth o Gymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, i ieithoedd eraill. Rhydd flaenoriaeth i gyhoeddiadau sy’n debygol o gyrraedd marchnad trwy Gymru gyfan a thu hwnt. Nid yw’n ariannu cyfieithu i’r Gymraeg.

Gwefan Cyfnewidfa Lên Cymru (Agor mewn ffenest newydd)