Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf i lenyddiaeth plant yng Nghymru.
Fe’u sefydlwyd ym 1976 i gydnabod, anrhydeddu a hyrwyddo rhagoriaeth mewn llyfrau i blant a phobl ifanc. Ers hynny, mae’r gwobrau wedi eu hennill gan rai o’n prif awduron a darlunwyr gan gynnwys Manon Steffan Ros, Jac Jones, Gareth F. Williams, Catherine Fisher a Jackie Morris.
Mae tri chategori i’r gwobrau:
- Cymraeg Cynradd (oedran 4–11)
- Cymraeg Uwchradd (oedran 11–18)
- Llyfr Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys ar gyfer plant oed cynradd neu uwchradd (4–18)
Mae’r enillydd ym mhob categori yn derbyn gwobr o £1,000.
Dewis y Darllenwyr
Mae Barn y Darllenwyr yn dlws arbennig i lyfrau a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng Nghynllun Cysgodi Tir na n-Og ac yn enwebu enillydd eu hunain ym mhob categori o blith y rhestr fer.
Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen. Rydym yn hynod ddiolchgar i CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Proffesiynol) am noddi’r gwobrau.
Her Ddarllen Tir na n-Og
Ydych chi’n barod am her ddarllen hwyliog newydd Tir na n-Og?
Cyfarfod y Beirniaid
Cyfarfod panel beirniaid Tir na n-Og 2026.
Cynllun Cysgodi ac Adnoddau
Cofrestru ar gyfer Cynllun Cysgodi 2026 a lawrlwytho adnoddau.
Cyn enillwyr Tir na n-Og
Ers sefydlu yn 1976, mae gwobrau Tir na n-Og wedi dyfarnu gwobrau i rai o enwau mwyaf llenyddiaeth Cymru a hynny yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Canllawiau Ymgeisio
Am ragor o wybodaeth am gyflwyno llyfr i’r gwobrau gallwch ddarllen y canllawiau cyflwyno.