Rydym ni yma i sicrhau bod gan Gymru ddiwydiant cyhoeddi llewyrchus ac i alluogi’r bobl sy’n byw yma weithio yn ein sector neu elwa ar yr ymdrechion creadigol a wneir yng Nghymru, er mwyn pobl Cymru.
Ein gwaith
Rydym yn cefnogi cyhoeddwyr, siopau llyfrau a chylchgronau i rannu straeon niferus Cymru a’i holl gymunedau, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn hyrwyddo darllen er pleser er mwyn annog, ysbrydoli a rhannu cariad at ddarllen i bawb.
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth i Gymru yw gwlad lle y gall pawb fod yn ddarllenwyr, a chael yr un mynediad at lyfrau, waeth beth fo eu gallu i’w fforddio.
Sut rydyn ni’n gweithredu
Elusen genedlaethol ydym ni, a daw ein cyllid yn rhannol o grant craidd gan Lywodraeth Cymru trwy Gymru Greadigol, ac yn rhannol o’n gweithgareddau masnachol a gwasanaeth cyfanwerthu llyfrau ein Canolfan Ddosbarthu. Rydym yn derbyn cyllid grant ar gyfer ein rhaglenni hyrwyddo darllen 2025-28 gan Rhaglen Cymorth Grant y Cwricwlwm.
Amdanom Ni
Rhagor o wybodaeth am Cyngor Llyfrau Cymru a’n gwaith.
Swyddi a Chyfleoedd
Swyddi gwag a chyfleoedd gyda Chyngor Llyfrau Cymru.
Gwirfoddoli
Gwybodaeth am wirfoddoli gyda Chyngor Llyfrau Cymru.
Llywodraethiant ac Ymddiriedolwyr
Gwybodaeth ar lywodraethiant Cyngor Llyfrau Cymru.
Adrannau
Gwybodaeth am adrannau o fewn Cyngor Llyfrau Cymru.
Dogfennau Corfforaethol a Pholisïau
Lawrlwytho dogfennaeth a pholisïau.