Gornest Lyfrau

Pupils from Years 5 and 6 at the Arad Goch centre taking part in the Bookslam / Gornest Lyfrau.

Beth yw Gornest Lyfrau / Bookslam?  

Cystadleuaeth flynyddol  sydd yn annog darllenwyr ifanc Blynyddoedd 3–8 i ddarllen er pleser. Mae Gornest Lyfrau a Bookslam yn annog dysgwyr i drafod y llyfrau maen nhw’n eu darllen a pharatoi fideo creadigol, fel grŵp neu ddosbarth, yn seiliedig ar un o’r llyfrau sydd ar y rhestr ddarllen.  

Mae 5 categori a rhestr ddarllen ar gael ar gyfer:     

  • Blynyddoedd 3 a 4 cyfrwng Cymraeg 
  • Blynyddoedd 5 a 6 cyfrwng Cymraeg 
  • Ysgolion trawsieithol Blynyddoedd 3-6 (ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf ond gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg, ac ysgolion trosiannol) 
  • Blynyddoedd 7-8 cyfrwng Cymraeg 
  • Blynyddoedd 3 – 6 cyfrwng Saesneg (BookSlam) 

Sut mae’n gweithio? 

Bydd angen i ysgolion ddewis un llyfr o’r rhestr i’w drafod ac un arall i’w gyflwyno fel hysbyseb. Cynhelir rownd sirol dan ofal y trefnwyr sirol, a bydd yr enillwyr sirol yn mynd ymlaen i’r rownd genedlaethol yn nhymor yr haf. 

Bydd yr ysgolion buddugol yn ennill tlws arbennig ynghyd ag un o’r gwobrau canlynol;

  • Gwobr 1af – gwerth £200 o lyfrau  
  • 2ail wobr – gwerth £150 o lyfrau  
  • 3ydd wobr – gwerth £100 o lyfrau  

Mae mwy o wybodaeth am y rowndiau sirol a chenedlaethol yn ein Pecyn Croeso, yn ogystal â Chanllaw a Phecyn Gweithgareddau isod.  

Manteision Allweddol

Mae’n her ddarllen hwyliog sy’n: 

  • annog plant i wirioni ar ddarllen a mwynhau llyfrau da 
  • meithrin agweddau cadarnhaol a hirdymor tuag at ddarllen 
  • cefnogi datblygiad llythrennedd emosiynol a meithrin sgiliau trafod, cyfathrebu a dadansoddi
  • cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm trwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau i unigolion a grwpiau ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad 
  • hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o lyfrau, awduron a dalunwyr 
  • dathlu safon eithriadol ym maes llenyddiaeth plant 

Cofrestrwch i’r gystadleuaeth gornest lyfrau / Bookslam  

Gall ysgolion gofrestru gyda’u trefnydd lleol erbyn 05 Rhagfyr 2025. (Cofrestru wedi cau) 

Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â plant@llyfrau.cymru