Gall darllen er pleser gael effaith gadarnhaol ar ein lles a’n hiechyd meddwl. Dyma rai rhesymau pam mae darllen yn dda i ni.
Lleihau lefel straen hyd at 68%
Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Sussex [1], mae darllen yn gallu lleihau lefel straen hyd at 68%. Dangosodd eu gwaith ymchwil mai darllen oedd y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o leihau lefel straen, a’i fod yn fwy effeithiol na gwrando ar gerddoriaeth, cael paned, neu fynd am dro. Mae’n rhoi cyfle i’r meddwl ymgolli mewn byd ymhell o heriau bywyd bob dydd drwy gynnig dihangfa.
[1] Dr. David Lewis “Galaxy Stress Research,” Mindlab International, Sussex University (2009)
Arafu curiad eich calon mewn 6 munud
Mae darllen llyfr yn gorfodi rhywun i lonyddu. Yn ôl yr un astudiaeth gan Brifysgol Sussex, mae darllen am gyn lleied â 6 munud yn arafu curiad y galon, yn lleddfu’r tensiwn yn y cyhyrau, ac yn annog y corff a’r meddwl i ymlacio.
Helpu ni i ddeall ein gilydd
Dangosodd astudiaeth yn y cyfnodolyn Science yn 2013 fod pobl sy’n darllen ffuglen yn well am dderbyn ac yn fwy parod i gydnabod bod credoau, dyheadau a syniadau pobl eraill yn gallu bod yn wahanol i’w rhai nhw.
Cynyddu empathi
Mae darllen ffuglen yn gallu cynyddu sgiliau empathi. Wrth i ni ddarllen straeon sy’n ymdrin â theimladau, meddyliau ac emosiynau cymeriadau, gan weld y byd trwy eu llygaid nhw, mae ein gallu ni i ddeall a chydymdeimlo ag eraill sydd wedi byw drwy brofiadau heriol yn cynyddu.
Dysgu rhywbeth newydd
Gall darllen ehangu ein gwybodaeth am bob math o feysydd a phynciau, a chynyddu ein dealltwriaeth ohonyn nhw. Mae ffeithiau a syniadau yn cael eu gwyntyllu, eu hystyried ac yna eu cyflwyno i’r darllenydd. Beth bynnag fo’ch diddordeb, mae darllen yn siŵr o helpu!
Cysgu’n well
Yn cael trafferth cysgu? Fe all darllen llyfr yn hytrach nag estyn am ffôn neu dabled cyn cysgu nid yn unig annog cwsg ond hefyd sicrhau cwsg o ansawdd uwch. Mae edrych ar sgrin cyn cysgu yn lleihau lefelau melatonin yn yr ymennydd, sef yr hormon sy’n annog cwsg, tra bod darllen llyfr yn annog yr ymennydd i ymlacio.
Ymarfer i’r ymennydd
Mae darllen yn bywiogi rhwydwaith cymhleth o gylchedau a signalau yn yr ymennydd. Mewn arbrawf arbennig, darllenodd rhai y nofel Pompeii gan Robert Harris, ac wrth i’r tensiwn yn y stori ddatblygu, gwelwyd bod mwy o ardaloedd yn yr ymennydd yn cael eu bywiogi. Gall darllen yn ddyddiol, felly, ein cynorthwyo i gadw’n galluoedd gwybyddol (cognitive abilities) yn gryf ac yn iach.
Jest mwynhewch!
Yn bwysicach na dim, efallai, gall llyfr da ein diddanu. Dyma weithgaredd hefyd y gellid ei wneud am ddim drwy ymaelodi â llyfrgell leol. Mae hefyd yn rhywbeth y gallwn ni ei wneud yn unrhyw le, a hynny unrhyw bryd.