Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi y bydd Megan Farr yn ymgymryd â swydd Rheolwr Datblygu Busnes o fis Mehefin 2026.
Wedi’i lleoli yn nhîm Canolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau, mae’r rôl strategol hon yn gweithio’n agos gyda chyhoeddwyr i nodi cyfleoedd twf newydd, yn cefnogi cleientiaid cyhoeddi i gyrraedd eu potensial gwerthu, ac yn helpu i gynhyrchu incwm i ategu cynaliadwyedd hirdymor yr elusen.
Mae Megan yn ymuno â’r Cyngor Llyfrau o Brifysgol Spa Caerfaddon lle mae’n Ddarlithydd mewn Cyhoeddi ar gyfer cyrsiau BA ac MA. Mae hi’n dod â 25 mlynedd o brofiad ar draws cyhoeddi yng Nghymru a’r DU i’r rôl, ochr yn ochr â gwybodaeth eang o’r diwydiant cyhoeddi Cymru yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn ogystal, roedd yr ymchwil ar gyfer ei doethuriaeth yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar gynyddu cyrhaeddiad rhyngwladol llyfrau o Gymru. Mae hi wedi gweithio o fewn y diwydiant yng Nghymru gyda Firefly Press, Graffeg a’r New Welsh Review, ac yn Llundain yn Bonnier a Macmillan Children’s Books. Ar hyn o bryd mae’n gyfarwyddwr bwrdd gyda Seren Books.
Mae Megan yn ymuno â’r tîm ar adeg gyffrous wrth i’r Ganolfan Ddosbarthu barhau i ddatblygu yn dilyn gweithredu’r system feddalwedd newydd KNK yn 2024 yn llwyddiannus. Mae’r system newydd wedi trawsnewid gallu ac effeithlonrwydd gweithredol y Ganolfan Ddosbarthu yn ei dwy flynedd gyntaf, gan ddod â mwy o effeithlonrwydd mewn gweithrediadau stoc a warws, a datblygiadau mewn rheoli gwybodaeth.
Wrth ail-lansio gwefan defnyddwyr, ffolio.cymru ym mis Chwefror, rydym bellach yn cynnig siop un stop ar-lein ar gyfer llyfrau o Gymru ym mhob fformat, ac mae’r Ganolfan Ddosbarthu yn parhau i greu cyfleoedd i gyhoeddwyr gynyddu gwerthiant a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn falch iawn o groesawu Megan i’r Tîm Gwerthu wrth iddi ymgymryd â’r rôl ganolog hon yn ein Canolfan Ddosbarthu. Mae ei phrofiad helaeth o’r sector cyhoeddi yng Nghymru, y DU a thu hwnt yn cynnwys rolau ymarferol ym maes gwerthu, marchnata a rheoli cyfrifon masnach mawr, ochr yn ochr ag ymchwil academaidd trylwyr ac arbenigedd rhyngwladol.
Mae Megan yn ymuno â ni gan ein bod mewn sefyllfa well nag erioed o’r blaen i gefnogi’r sector llyfrau yng Nghymru a’i helpu i ffynnu. Mae’r system newydd wedi bod yn drawsnewidiol a bydd rôl Megan fel rhan o’n Tîm Gwerthu yn helpu ein cyhoeddwyr i gael y gorau o’n gwasanaethau, i chwilio am gyfleoedd newydd a thyfu eu busnesau.”
Bydd Megan yn dechrau ei swydd newydd ym mis Mehefin, a chyn hynny bydd yn dilyn cwrs trochi yn y Gymraeg i baratoi ar gyfer y rôl. Gan ei bod eisoes yn siaradwr Cymraeg newydd, mae Megan wedi ymrwymo i ddatblygu ei Chymraeg i fod yn rhugl gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau, er mwyn ymgymryd â’r swydd.
Meddai Megan: “Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â’r Cyngor Llyfrau ar adeg mor gyffrous, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chyhoeddwyr yng Nghymru i’w helpu i dyfu a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn y DU a ledled y byd. Mae’r rôl hon yn adlewyrchu fy nghred ddofn ym mhŵer a chyfoeth llenyddiaeth Cymru i swyno darllenwyr ym mhob man. Rwy’n ysu am gael dechrau arni!”
