Mae’r grantiau hyn yn cefnogi cyhoeddi ystod eang o lyfrau a chylchgronau Saesneg eu hiaith ar gyfer oedolion a phlant. Yn bennaf, rydym yn cefnogi cyhoeddiadau sydd â ffocws diwylliannol Cymreig, gan gynnwys deunydd hamdden a theitlau llenyddol. Nid ydym yn ariannu gwerslyfrau na deunyddiau addysgol cyffelyb. Mae grantiau ar gael hefyd i gyhoeddwyr tuag at gomisiynu awduron, cyflogi golygyddion creadigol a swyddogion marchnata, a thuag at rai cynlluniau marchnata llyfrau.
Y grantiau cyhoeddi Saesneg sydd ar gael
Dyma fanylion y grantiau sydd ar gael ar gyfer cyhoeddi deunydd yn y Saesneg.
Grantiau Llyfrau Llenyddol Unigol
Grantiau tuag at gynhyrchu llyfrau llenyddol neu ddiwylliannol o ddiddordeb Cymreig, neu gan awduron sy’n byw yng Nghymru, i oedolion neu blant.
Grantiau Cyhoeddi Refeniw
Mae’r rhain yn grantiau bloc i gefnogi rhaglenni cyhoeddi llenyddol cyhoeddwyr a leolir yng Nghymru. Ymgeisir am y grant bob pum mlynedd. Rhaid i gyhoeddwr fod â gweinyddiaeth gadarn a phrofiad helaeth, ac wedi bod yn derbyn y Grantiau Llyfrau Llenyddol Unigol, cyn y gallai ymgeiso i fod yn Gyhoeddwr Grant Refeniw. Bydd y rownd gyllido nesaf ar gyfer y cyfnod 2032-37, a bydd y broses o ymgeisio yn digwydd yn ystod 2035–36.
Grantiau Awduron a Darlunwyr
Cyhoeddwyr sy’n ymgeisio am y grantiau hyn i’w galluogi i gynnig blaendal ar freindaliadau neu i dalu ffioedd comisiynu i awduron neu ddarlunwyr i greu gwaith o safon uchel ac apêl eang. Nid yw’r grantiau hyn yn cael eu dyfarnu’n uniongyrchol i awduron na darlunwyr.
Canllawiau:Blaendaliadau/Ffioedd i Awduron a Darlunwyr (PDF)
Grantiau Marchnata
Grantiau i gyhoeddwyr hyrwyddo teitlau unigol neu grwpiau o deitlau sydd ag apêl fasnachol gref ac sydd â photensial gwerthiant uchel.
Grantiau Cefnogi Swyddi
Gall cyhoeddwyr cydnabyddedig ymgeisio am y grant hwn tuag at y gost o gyflogi golygyddion creadigol a swyddi marchnata. Mae’r broses dendro ar gyfer y grantiau hyn yn dilyn yr un amserlen ac yn rhedeg ochr yn ochr â Grantiau Refeniw (uchod). Bydd y rownd gyllido nesaf ar gyfer y cyfnod 2026–2030, a bydd y broses o ymgeisio yn digwydd yn ystod 2025–26.
Grantiau Cylchgronau Llenyddol Bach
Grantiau i gefnogi mentrau cyhoeddi bach ac i hybu talent greadigol newydd o Gymru. Adolygir ceisiadau unwaith y flwyddyn, gyda dyddiad cau am geisiadau fel arfer ym mis Mai.
Grantiau Gweithgareddau Marchnata Bach
Grantiau bach tuag at hyrwyddo teitlau llenyddol unigol neu grwpiau o deitlau. Nod y cynllun hwn yw ariannu lansiadau a gweithgareddau marchnata bychain.
Sut ydw i’n gwneud cais ar gyfer grant cyhoeddi deunydd Saesneg?
I wneud cais am grant, mae angen i gyhoeddwyr gyflwyno cais i’r Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi (Saesneg) annibynnol sy’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn i ystyried y ceisiadau a dderbyniwyd ac i ddyfarnu cyllid. Cyhoeddir dyddiadau cyfarfodydd a dyddiadau cau’r Is-bwyllgor ymlaen llaw.
Cyfarfodydd a dyddiadau cau yr Is-bwyllgorau Datblygu Cyhoeddi
Dysgwch fwy am ein his-bwyllgorau a sut mae nhw’n gweithio
Mae ffurflenni cais ar gael gan y Swyddog Datblygu Cyhoeddi Saesneg ar english.grants@books.wales (Agor ebost). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen ac wedi deall canllawiau ac amodau’r grant cyn cyflwyno eich cais.
Mae croeso i unrhyw un sydd am gael cyngor ynglŷn â’r drefn o ymgeisio am grantiau i gysylltu â’r Adran Datblygu Cyhoeddi yn uniongyrchol, yn enwedig os ydych yn gyhoeddwr newydd sy’n ystyried mentro i’r maes. Gallwch gysylltu â ni ar english.grants@books.wales (Agor ebost) i drafod cyhoeddiadau Saesneg neu grantiau.cymraeg@llyfrau.cymru (Agor ebost) i drafod cyhoeddiadau Cymraeg.
Noder nad ydym yn derbyn ceisiadau grant yn uniongyrchol gan unigolion. Os ydych yn awdur, yn ddarlunydd neu’n ddylunydd sy’n chwilio am gefnogaeth, mae angen i chi sicrhau cefnogaeth gan gyhoeddwr a fydd, yn eu tro, yn cyflwyno cais i’r Cyngor Llyfrau.
Pa gefnogaeth arall sydd ar gael i gyhoeddwyr?
Yma gallwch ddod o hyd i gefnogaeth arall sydd ar gael: Gwasanaethau Dylunio Gwasnaethau Golygyddol Cyfieithu Canolfan Ddosbarthu O bryd i’w gilydd rydym yn derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau unigol. Cewch fanylion cyfleoedd cyllid a thendrau newydd sy’n gysylltiedig â phrosiectau arbennig ar y dudalen Cyfleoedd Cyllid a Thendrau Newydd./p> New Funding Opportunities and Tenders<