Grantiau Cylchgronau Iaith Gymraeg

Detholiad o gylchgronau mewn siop lyfrau

Dyfernir grantiau ar gyfer cylchgronau Cymraeg a gwasanaeth newyddion digidol drwy gyfrwng y Gymraeg bob pedair blynedd gan ddilyn prosesau tendro cystadleuol. Mae’r grantiau ar gael i ymgeiswyr newydd a phresennol. Mae’r swm sydd ar gael ar gyfer y grantiau hyn yn dibynnu ar lefel y cyllid a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru. Mae dau gynllun – un ar gyfer Cylchgronau ac un ar gyfer Gwasanaeth Newyddion Digidol. Cyhoeddir Canllawiau ac Amodau pan fydd y broses ymgeisio ar agor.

Cylchgronau

Amcan y cynllun yw sicrhau cyhoeddi amrywiaeth o gylchgronau Cymraeg bywiog ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n cynnwys ysgrifennu da, a lle bo hynny’n briodol, newyddiaduraeth safonol, adolygiadau a thrafodaethau ar nifer o bynciau amrywiol. Mae’r broses dendro ar gyfer y rownd cyllido nesaf (darpariaeth yn y cyfnod 2027–31) nawr ar agor.

Sut ydw i’n gwneud cais ar gyfer grant cylchgrawn Cymraeg?

Tendr cylchgronau Cymraeg 2027-31

Mae’r tendr cylchgronau Cymraeg hon ar agor rhwng 9 Chwefror a 20 Ebrill 2026. Bydd y grantiau newydd yn weithredol o 1 Ebrill 2027 hyd 31 Mawrth 2031 ac yn ddibynnol ar barhad y cyllid gan Lywodraeth Cymru. 

Dyfernir y grantiau yn dilyn cyfarfod mis Mehefin o’r Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi Cymraeg.

Dyma’r dogfennau a chanllawiau perthnasol:

Canllawiau: Tendr Cylchgronau Cymraeg 2027–31 (PDF)

Ffurflen Gais Tendr 2027–31 (Word)

Gwybodaeth Ariannol ar gyfer y Cais (Excel)

Am ragor o fanylion, cysylltwch ag Arwel Jones, Pennaeth yr Adran Datblygu Cyhoeddi, ar arwel.jones@llyfrau.cymru.

Gwasanaeth Newyddion Digidol

Dyfernir y grant hwn bob pedair blynedd i gynnal gwasanaeth newyddion digidol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyfarnwyd y grant ar gyfer darpariaeth yn y cyfnod 2026-30 yn 2025.

Dyfarnwyd y grant ar gyfer darpariaeth yn y cyfnod 2026-30 yn 2025.