Sefydlwyd y gwobrau hyn, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 2024, er mwyn dathlu doniau darlunwyr a dylunwyr, a’u gwaith i ddod â straeon yn fyw a chreu llyfrau trawiadol a deniadol sy’n apelio at ddarllenwyr ifanc.
Mae dau gategori i’r gwobrau – Clawr Llyfr Cymraeg a Chlawr Llyfr Saesneg.
Dewiswyd y llyfrau oedd ar y rhestrau byrion, a’r cyfrolau buddugol yn 2025, gan aelodau Panel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau. Mae dylunydd/darlunydd y clawr buddugol yn y ddau gategori yn ennill neu’n rhannu gwobr ariannol o £500.
Clawr Llyfr Cymraeg 2025
Enillydd
Nos Da Blob
Darluniad y clawr: Huw Aaron
Dyluniad y clawr: Opal Roengchai
Awdur: Huw Aaron
Cyhoeddwyd gan Y Lolfa
Rhestr fer
Gwen ac Arianrhod
Awdur a Darlunyddy clawr: Lleucu Gwenllian
Dyluniad y clawr: Eleri Owen
Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch
Ysgol Arswyd
Darluniad y clawr: Sian Angharad
Awdur: Catrin Angharad Jones
Cyhoeddwyd gan Y Lolfa
Clawr Llyfr Cymraeg 2024
Enillydd
Mynd i Weld Nain
Darluniad y clawr: Lily Myrennin
Dyluniad y clawr: Richard Pritchard
Awdur: Delyth Jenkins
Cyhoeddwyd gan Y Lolfa
Rhestr Fer
Ac Rwy’n Clywed Dreigiau / And I Hear Dragons
Darluniad y clawr: Eric Heyman
Dyluniad y clawr: Becka Moor
Golygydd: Hanan Issa
Cyhoeddwyd gan Firefly
Diwrnod Prysur
Darluniad a dyluniad y clawr: Huw Aaron
Awdur: Huw Aaron
Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch
Mwy o Straeon o’r Mabinogi
Darluniad y clawr: Valériane Leblond
Dyluniad y clawr: Gwasg Rily
Awdur: Sian Lewis
Cyhoeddwyd gan Wasg Rily