Bob blwyddyn, rydym yn ffodus o gael panel o feirniaid sydd â diddordeb mewn llyfrau plant yng Nghymru ac sy’n ymroi i’r dasg o ddarllen y llyfrau a enwebwyd ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og.
Mae gennym un panel yn beirniadu’r teitlau Cymraeg yn y categorïau oedran cynradd ac uwchradd. Mae panel beirniaid arall yn gwerthuso’r llyfrau Saesneg sydd â chefndir Cymreig dilys.
Y Panel Cymraeg
Y beirniaid ar y panel Cymraeg ar gyfer 2026 yw Rhys Dilwyn Jenkins (Cadeirydd), Helen Jones, Malachy Edwards a Loti Glyn. Eu tasg nhw yw dewis y rhestr fer a’r enillydd terfynol.
Rhys Dilwyn Jenkins
Dwi’n bennaeth ar Adran Gyfieithu Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn byw ger Caerdydd.
Ro’n i’n mwynhau darllen yn arw pan oeddwn i’n iau, ond roedd fy swyddi prysur wrth fynd yn hŷn yn golygu nad oedd gen i lawer o amser i ddarllen. Gwnaeth y cyfnodau clo ailgynnau’r sbarc, a chreais gyfrif Instagram lle dwi’n ysgrifennu adolygiadau o lyfrau Cymraeg a Saesneg.
Roedd tyfu i fyny mewn ardal Seisnig ym Mhort Talbot yn golygu na chefais gyfle i ddarllen unrhyw lyfrau Cymraeg, ond ers dod yn rhugl yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, dwi wedi gallu profi’r llawenydd ddaw yn sgil darllen llenyddiaeth Gymraeg. Rydyn ni, siaradwyr Cymraeg, mor ffodus ein bod ni’n gallu darllen llyfrau mewn dwy iaith.
Ymunais â chlwb Llyfrau Lliwgar yng Nghaerdydd yn ddiweddar – mae’n brofiad hyfryd cael trafod llyfrau yn ymwneud â materion LHDTC+ gyda grŵp mor gyfeillgar.
Braint yw bod ar y panel eleni – dwi’n edrych ymlaen at weld beth sydd gan awduron Cymru i’w gynnig!
Helen Jones
Un o Rydaman ydw i’n wreiddiol, ond wedi ymgartrefu yn Nhal-y-bont, Ceredigion, ers 38 mlynedd.
Yn dilyn gyrfa ym myd dylunio graffeg, mentrais i fyd addysg ac yno bues am chwarter canrif. Ymunais â’r Cyngor Llyfrau fel Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yn 2017 a threulio cyfnod llawen a chyffrous ym myd cyhoeddi, gan gyfarfod â nifer o bobl greadigol a thalentog, yn awduron, darlunwyr a dylunwyr. Er ‘mod i’n gwneud bob mathau o bethau erbyn hyn, mae creadigrwydd yn parhau i’m hysbrydoli a’m cyffroi.
Malachy Edwards
Dwi’n golofnydd i gylchgrawn Golwg a chyhoeddwyd fy nghofiant ffeithiol-greadigol cyntaf, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd 2023. Ym mis Hydref 2025 cyhoeddwyd ei ddilyniant, Paradwys Goll.
Dwi’n meddwl bod cynrychiolaeth yn ein llenyddiaeth yn bwysig, ac yn y cyfrolau hyn rwy’n archwilio fy hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth olrhain hanes fy nheulu yn Iwerddon a Barbados.
Mae gen i un mab a dwy ferch, ac mae’n gyffrous cael ailddarganfod llenyddiaeth i blant a phobl ifanc, a hynny trwy ddarllen iddyn nhw, ac yn gynyddol, fy mhlant yn darllen i mi!
Rwy’n angerddol am ddarllen, ac yn ei ystyried yn anrhydedd fawr cael bod yn un o feirniaid Gwobrau Tir na n-Og eleni. Edrychaf ymlaen at ymgolli yn y llenyddiaeth orau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Loti Glyn
Ar ôl treulio tair blynedd yn Aberystwyth yn astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, rwyf bellach wedi symud yn ôl i dde-ddwyrain Cymru i wneud MA mewn Cyfryngau Digidol a Chymdeithas.
O oedran ifanc, manteisiais ar bob cyfle i ddarllen, gan gynnwys darllen yn uchel i fy mrawd a’m chwaer. Y llyfr sydd â lle annwyl yn fy nghalon o hyd yw Ballet Shoes gan Noel Streatfeild. Roedd camu i fyd y theatr gyda’r tair chwaer yn hudolus.
Yn ddiweddar cefais y fraint o fod ar y Panel Pobl Ifanc a bu’n agoriad llygad. Edrychon ni ar bob math o lyfrau, a bu’r profiad yn fuddiol i mi werthfawrogi’r gwaith sydd y tu ôl i gynhyrchu’r llyfrau hyn. Cyfrannais hefyd at Cymru Balch Ifanc a enillodd un o Wobrau Tir na n-Og y llynedd.
Mae darllen yn agor drysau i fydoedd gwahanol, yn meithrin hyder ac yn bwydo’r dychymyg. Rwy’n dal i garu darllen ac yn aml â llyfr yn fy llaw.
English Judging Panel
Mae gwaith y paneli beirniadu yn eithriadol o bwysig. Nid yn unig y maent yn dewis y rhestr fer a’r enillwyr yn y pen draw, maent hefyd yn rhoi adborth gwerthfawr ar yr holl lyfrau, i gyhoeddwyr ac awduron. Cadeirydd y panel sy’n beirniadu’r llyfrau Saesneg sydd â chefndir Cymreig dilys yn 2026, yw Karen Gemma Brewer. Kate Wynne, Ben James a Molly Tidy yw gweddill y panelwyr
Karen Gemma Brewer
Fel bardd, gwerthwr llyfrau a chyd-drefnydd Gŵyl Lyfrau Aberaeron, llyfrau yw fy mywyd a’m bywoliaeth.
Roeddwn i’n ddarllenydd cynnar a brwd, gan symud ymlaen yn gyflym o The Cow Who Fell in the Canal i Paddington, The Borrowers a Roald Dahl. Yn ddiweddar cefais anturiaethau yng nghwmni llyfrau glas, pwmpenni sy’n arnofio, a brain clocwaith.
Yn y siop, mae cwsmeriaid yn gofyn i mi’n gyson am argymhellion ac rwy’n barod i roi fy marn ar sail yr hyn rwyf wedi’i ddarllen a’r hyn y mae pobl ifanc yn awyddus i’w ddweud wrthyf.
Mae gan Gymru gyfoeth o awduron dychmygus, cyhoeddwyr sydd wedi ymrwymo i amrywiaeth o lenyddiaeth, a llywodraeth sy’n awyddus i roi llyfrau yn nwylo plant. Ychwanegwch ffenomen cyfryngau cymdeithasol, a’r canlyniad yw mwy o bobl ifanc wrth ein silffoedd â syniad pendant o’r math o lyfr maen nhw ei eisiau. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddod â’r safbwyntiau hyn i’r panel beirniadu.
Kate Wynne
Ro’n i’n ddarllenydd brwd pan o’n i’n blentyn, yn gwirioni ar bob math o lyfrau. Arweiniodd y cariad hwn at ennill gradd Llenyddiaeth Saesneg, ac ar ôl graddio, dechreuais weithio mewn llyfrgelloedd a dewisais yrfa yn y byd hwnnw. Fel llyfrgellydd academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, dwi wedi gweld yr effaith mae darllen yn ei chael ar yrfa academaidd unigolyn, yn gwella geirfa, ehangu gwybodaeth gyffredinol, ac yn llesol o ran iechyd meddwl.
Mae fy mhlant wedi etifeddu cariad eu mam at ddarllen, ac felly dwi wedi ailddarllen sawl hoff lyfr o’m plentyndod, a darganfod sawl un newydd. Mae rhannu llyfrau ry’n ni’n gwirioni arnyn nhw’n bleser, ac mae darllen cyn cysgu yn dal yn rhan bwysig o’n diwrnod fel teulu.
Dwi wrth fy modd yn argymell llyfrau i ffrindiau ac aelodau o’r teulu, a dwi’n grediniol bod cariad at ddarllen yn cychwyn yn ein plentyndod. Edrychaf ymlaen yn arw at fod yn feirniad Gwobrau Tir na n-Og eleni.
Ben James
Ers 2010, bûm â diddordeb yn y maes llyfrgelloedd, a sylweddoli’n fuan mai dyma’r maes i mi. Cwblheais gwrs ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgelloedd yn 2019, a’m penodi’n Llyfrgellydd Plant a Phobl Ifanc Bro Morgannwg yn 2020.
Yn ddarllenwr brwd erioed, roeddwn wrth fy modd yn ymgolli mewn llyfrau pan oeddwn i’n blentyn. Mae darllen er pleser yn fuddiol iawn, a thrwy weithio’n agos ag ysgolion Bro Morgannwg, caf gyfle i rannu fy nghariad at ddarllen â’r plant. Mae hefyd yn llawer o hwyl!
Mae cael gwahoddiad i feirniadu Gwobrau Tir na n-Og yn deimlad cyffrous iawn. Cefais fy magu ar aelwyd oedd yn siarad Cymraeg a Saesneg, a bydd hi’n ddiddorol gweld sut y rhoir sylw i hunaniaeth Gymreig yn y llyfrau. Mae hunaniaeth ddiwylliannol yn gysyniad difyr sy’n unigryw i bawb. Mae’n rhan bwysig iawn o bwy ydyn ni fel pobl.
Molly Tidy
Helô! Fi yw Molly o Fedwas, Caerffili, ac ar hyn o bryd dwi’n astudio Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Warwick.
Dwi’n angerddol am ddarllen erioed! Roald Dahl, Julia Donaldson a Jacqueline Wilson oedd fy hoff awduron pan o’n i’n blentyn, a thrwy fynychu gwyliau llenyddol a chwrdd ag awduron, tyfodd fy niddordeb mewn llyfrau.
Yn fy arddegau, ac wedyn fel oedolyn ifanc, roedd fy mryd ar ddod o hyd i lyfrau ag iddynt gysylltiad Cymreig, ac erbyn hyn, fy niddordeb pennaf yw llyfrau sy’n gysylltiedig â hanes, hunaniaeth a threftadaeth Cymru. Ddwy flynedd yn ôl, ces i brofiadau gwych fel aelod o’r Panel Pobl Ifanc, a chyfle i fod yn rhan o’r drafodaeth am hyrwyddo darllen er pleser ymhlith pobl ifanc.
Mae’n anrhydedd i gael fy newis i fod yn un o feirniaid y gwobrau eleni, a dwi’n edrych ymlaen at ddarllen y llyfrau, a dathlu llenyddiaeth i blant yng Nghymru.