Cynllun Cysgodi Tir na n-Og

Eisiau cyflwyno llyfrau newydd i ddarllenwyr ifanc?  Eisiau dathlu llyfrau gyda chefndir Cymraeg? Eisiau trafod y llyfrau a straeon yna?

Cynllun cysgodi Tir na n-Og yw’r peth i chi!

Bwriad y cynllun cysgodi yw codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc am deitlau’r rhestr fer wrth gynnig cyfle i fwynhau darllen a thrafod y llyfrau â’u cyfoedion. Gall ddarllenwyr pleidleisio dros Wobr Tir na n-Og Dewis y Darllenwyr yn ogystal, sef tlws arbennig ym mhob categori sy’n cael ei ddewis gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cynllun cysgodi.

Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillydd o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Mae’r pecyn cysgodi’n cynnwys crynodeb o’r llyfrau, sylwadau gan y beirniaid swyddogol, gwybodaeth am yr awduron, gemau a chardiau pleidleisio.

Cofrestrwch ar gyfer Cynllun Cysgodi 2026 (agor mewn ffenest newydd)

Cyhoeddir enillydd y wobr Saesneg ar 9 Mai 2026 ac enillwyr y gwobrau Cymraeg yn ystod Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn ar 28 Mai 2026.