Cyfle i ennill tocyn teulu i Fferm Folly!
Y cyfan sydd angen ei wneud i’w creu clawr newydd i lyfr a hynny fel rhan o Her Ddarllen Tir na n-Og!
Anfonwch lun o’r clawr newydd, gydag enw, oed a chyfeiriad e-bost at plant@llyfrau.cymru erbyn 12:00pm, dydd Llun 11 Mai 2026.
Neu gallwch bostio eich llun atom, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB
Rheolau’r Gystadleuaeth
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan Cyngor Llyfrau Cymru, eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
- Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
- I gystadlu mae rhaid e-bostio llun o’ch dyluniad clawr i plant@llyfrau.cymru neu ei bostio at Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB
- Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
- Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00pm ar 11 Mai 2026.
- Bydd yr enillydd yn derbyn Tocyn Teulu i Fferm Folly. Ni ellir cyfnewid y wobr ac nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
- Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel arbennig.
- Nid yw Cyngor Llyfrau Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
- Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
- Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Pholisi Preifatrwydd Cyngor Llyfrau Cymru sydd ar gael â’r wefan: https://llyfrau.cymru/polisi-preifatrwydd/
- Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gystadleuaeth yna cysylltwch â thîm Cyngor Llyfrau Cymru, post@llyfrau.cymru neu 01970 624 151
- Trwy gystadlu rydych yn rhoi caniatâd i ni rannu eich dyluniad ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru a chyfrifon cymdeithasol Cyngor Llyfrau Cymru.