Llongyfarchiadau mawr i awduron ar y rhestrau byrion Cymraeg
Categori Cymraeg Cynradd
Cyfri Defaid gan Enlli Lewis, darluniwyd gan Gareth Brown (Atebol)
Rhaid i Mostyn, yr oen bach clyfar, gyfri defaid y praidd i wneud yn siŵr fod pob un yn saff. Ond mae gan Mostyn broblem – mae’n syrthio i gysgu bob tro!
Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen gan Siôn Tomos Owen, darluniwyd gan Siôn Tomos Owen (Atebol)
Ar wyliau mae Gerwyn yn dod ar draws llyfr arbennig mewn siop go wahanol. Wrth agor y llyfr ar y slei, mae’n cael ei lyncu i mewn iddo ac yn deffro mewn gwlad anghyfarwydd.
Am Gymro gan Medi Jones-Jackson, darluniwyd gan Telor Gwyn (Y Lolfa)
Llyfr deniadol a llawn hwyl am 13 o ddynion ysbrydoledig o Gymru sy’n arbenigwyr yn eu meysydd penodol ac yn dod o bob rhan o Gymru.
Llyfr Sgrap Macs Sion gan Mari Lovgreen, darluniwyd gan Cai Tudur (Y Lolfa)
Dyma lyfr sgrap boncyrs Macs Sion – llyfr llawn cyfrinachau a breuddwydion. Cawn fynd ar daith gydag ef i’r eisteddfod cylch, i Langrannog ac ar ei ddêt cyntaf…!
Categori Cymraeg Uwchradd
Y Garthen gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)
Antur hanesyddol am Pegi a’i brawd Ifan sy’n gweithio yn Ffatri Wlân Rhyd Ddu, Pen Llŷn. Un bore, daw Pegi o hyd i gwdyn o arian wedi’i ddwyn o’r ffatri ac mae Amos Williams, rheolwr y ffatri, yn cyhuddo Ifan o’i gymryd.
Anfarwol gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
Mae chwe disgybl cwrs trochi Ysgol Uwchradd Glan y Gors yn mynd ar drip ysgol i wersyll Coed Daniel. Ond nhw ydi’r unig ddosbarth sy’n llwyddo i gyrraedd pen y daith…
Gwen ac Arianrhod gan Lleucu Gwenllian, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Gwasg Carreg Gwalch)
Dydi symud i ysgol newydd byth yn hawdd; mae’n anoddach fyth pan nad ydach chi’n ffitio i mewn. Nofel graffig am gyfeillgarwch, galar, a’r trafferthion o dyfu i fyny.
Y Cae Ras gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Mae bywyd Danny yn gymhleth. Mae Mam wedi cael cariad newydd sydd ddim at ddant Mali, ei efaill, a daw hyn â newid byd i’r teulu bach sy’n byw yng nghysgod y Cae Ras.