Athrawon Caru Darllen

Athrawon Caru Darllen - Teachers Love Reading logo

Athrawon Caru Darllen

Beth yw Athrawon Caru Darllen?

Mae’r prosiect hwn yn ymwneud yn bennaf â meithrin cariad at ddarllen ymhlith athrawon, fel y gallant deimlo’n hyderus wrth ysbrydoli eu disgyblion i wneud yr un peth.

Mae’r cynllun hwn ar gael i athrawon cyfnod allweddol 2. Gan fod y rhan fwyaf o’r llyfrau ar y rhestr drafod yn addas ar gyfer Blynyddoedd 5 a 6, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i athrawon sy’n dysgu yr oedran hwn. Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn agored i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig.

Newyddion cyffrous – Rydym yn cyflwyno’r cynllun i’r Sector Uwchradd ym mis Medi 2026, a bydd cyfle i 20 o ysgolion gymryd rhan.

Manteision y prosiect

Mae’r prosiect yn cefnogi’r amcanion sydd wrth galon Cwricwlwm i Gymru. Bydd Athrawon Caru Darllen hefyd yn gallu annog ysgolion i gofleidio ethos ysgol gyfan sy’n gosod darllen er pleser yn graidd iddo. Fel y nodir yn y Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ‘mae’r profiadau llenyddol a gynigir yn anelu at danio dychymyg a chreadigedd dysgwyr a helpu i feithrin cariad gydol oes at lenyddiaeth.’

Credwn yn gryf ei bod yn bwysig darparu cyfleoedd i athrawon ymgysylltu, mwynhau ac archwilio manteision darllen er pleser fel unigolion. Bydd hyn yn datblygu sgiliau empathi’r athrawon, yn tanio eu dychymyg, ac yn eu galluogi i drosglwyddo’r brwdfrydedd yma i’w disgyblion.

Sut mae’n gweithio?

Am y tro cyntaf eleni (2025-26), mae Gwawr Maelor o Brifysgol Bangor wedi cydweithio â ni ar y prosiect er mwyn rhannu ei harbenigedd a’i syniadau, a chynnig strategaethau darllen i athrawon i’w treialu ar lawr dosbarth.

Ceir tri grŵp darllen athrawon rhanbarthol, gyda’r prif nod o alluogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder ymhellach wrth drafod a mwynhau llenyddiaeth – gan eu hysbrydoli i fwynhau darllen a thrafod llenyddiaeth yn y dosbarth.

Mae’n ofynnol i’r athrawon a’r ysgolion sy’n dymuno cymryd rhan yn y prosiect hwn ymrwymo i wreiddio darllen er pleser yn eu hamserlenni wythnosol. Er enghraifft, bydd angen iddynt ddangos eu bod wedi cynnal sesiynau darllen ar y cyd yn rheolaidd gyda disgyblion ar destunau dethol (sesiynau oddeutu 20–30 munud o hyd).

Sut ydw i’n cofrestru i gymryd rhan?

Byddwn yn cynnal cynllun Athrawon Caru Darllen eto yn 2026-27, gyda chyfle i’r ysgolion uwchradd gymryd rhan am y tro cyntaf.

Yn ystod y flwyddyn academaidd 2026/27, bydd pedair sesiwn grŵp darllen ym mhob rhanbarth i drafod y llyfrau. Bydd rhai sesiynau wyneb yn wyneb ac eraill yn rhithiol. Bydd hwylusydd yn eu harwain ac yn annog pob aelod i gyfrannu. Bydd cyfraniad tuag at gostau cyflenwi ar gael i ryddhau’r athrawon o’r ysgol, er mwyn i’r sesiynau allu digwydd o fewn oriau gwaith arferol yn yr wythnos.

Bydd angen i bob athro sy’n ymrwymo i fynychu pob sesiwn lofnodi cytundeb. Mae presenoldeb mewn sesiynau yn holl bwysig i lwyddiant y prosiect.

Bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn y grŵp darllen yn derbyn pecyn o lyfrau wedi’u dethol yn ofalus, yn amrywio o lyfrau ffuglen a ffeithiol i farddoniaeth a nofelau graffig.

BYDD COFRESTRU AR GYFER 2026/27 YN AGOR YM MIS MEHEFIN

Bydd cyfle i 75 o ysgolion cynradd a 20 o ysgolion uwchradd i gymryd rhan, felly ewch amdani – y cyntaf i’r felin fydd hi!