Cylchgronau

Mae dewis ardderchog o gylchgronau ar gael i chi ddod o hyd i’r newyddion diweddaraf, safbwyntiau a manylion digwyddiadau cyfredol yng Nghymru. Dyma’r teitlau rydym yn eu cefnogi trwy ein grantiau. Beth am nôl copi o’ch siop lyfrau leol neu danysgrifio i dderbyn copi trwy eich blwch post?

 

Cylchgronau Cymraeg

Hamdden

Cara

Cylchgrawn Cymraeg i fenywod, gan fenywod ac am fenywod. Cyhoeddir deirgwaith y flwyddyn.

Hafan | Cylchgrawn Cara

Lysh

Cylchgrawn ar-lein. Ffasiwn, adloniant, hamdden, iechyd a lles.

Lysh Cymru

Y Wawr

Cylchgrawn chwarterol Merched y Wawr. Erthyglau, cystadlaethau a newyddion Merched y Wawr.

Y Wawr | Merched y Wawr  

Cristion

Cyhoeddiad deufisol yn edrych ar y byd trwy lygaid y ffydd Gristnogol. 

Cylchgronau Cristnogol – Cristnogaeth Cymru

Hanes Byw

Straeon o fyd hanes ac archaeoleg, iaith a chelfyddyd, sy’n dal yn berthnasol i’n bywydau ni heddiw, gan daflu golau ar gefndir a gwreiddiau’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas o hyd. Pedwar rhifyn y flwyddyn. 

Tanysgrifiad Hanes Byw – Gwasg Carreg Gwalch

Lingo Newydd

Y cylchgrawn i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Amrywiaeth o erthyglau ar lefelau gwahanol, gyda rhestrau geirfa o’r geiriau anodd. Cyhoeddir bob yn ail fis, ac mae ar gael ar-lein yn ogystal. 

Lingo Newydd – Lingo360

Y Selar

Cylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Cyhoeddir bedair gwaith y flwyddyn. 

Y Selar – Y diweddara am gerddoriaeth Gymraeg gyfoes

Llenyddol a diwylliannol

Barddas

Cylchgrawn y Gymdeithas Gerdd Dafod, neu Barddas. Barddoniaeth, ysgrifau ac adolygiadau. Cyhoeddir bedair gwaith y flwyddyn. 

Cylchgrawn Barddas – Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Barn 

Cylchgrawn materion cyfoes Cymraeg, yn cynnwys y celfyddydau, gwyddoniaeth, yr iaith Gymraeg a gwleidyddiaeth. Cyhoeddir deg rhifyn y flwyddyn. 

Mehefin 2025 / Rhifyn 749 | Barn

O’r Pedwar Gwynt

Gweld y byd trwy lyfrau. Mae’r cylchgrawn llyfrau Cymraeg, O’r Pedwar Gwynt, yn adlewyrchu ac yn cwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd. Cyhoeddir deirgwaith y flwyddyn.

O’r Pedwar Gwynt

Materion cyfoes / newyddion

Golwg       

Cylchgrawn materion cyfoes yn cynnwys newyddion a’r diweddaraf o Gymru. Gigs, theatr, ffilmiau, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, celfyddydau, adloniant a chwaraeon. Cyhoeddir bob wythnos.

Cylchgrawn Golwg – Golwg360

Y Cymro              

Papur newydd misol Cymraeg, yn cynnwys newyddion, diwylliant, hamdden a chwaraeon.

Rhifyn Mehefin Y Cymro | Y Cymro

Plant

Cip

Cylchgrawn bywiog Cymraeg ar gyfer darllenwyr 7 i 11 oed. Cyhoeddir yn ddeufisol.

Cip | Urdd Gobaith Cymru         

Wcw            

Cylchgrawn lliwgar Cymraeg i blant hyd at 9 oed – gyda chyfieithiad Saesneg ar gyfer rhieni. Cyhoeddir naw rhifyn y flwyddyn.

Tanysgrifiwch i Wcw a’i Ffrindiau

Cylchgronau Saesneg

Folding Rock

Cylchgrawn newydd sy’n rhoi llwyfan i awduron newydd a chydnabyddedig, gan ddathlu llenyddiaeth Gymreig yn Saesneg. Cyhoeddir tri rhifyn y flwyddyn.

foldingrock.com

The Paper

Cylchgrawn annibynnol newydd, ffres, mawr, haerllug. Rhifyn 1: The Brain. Rhifyn 2: Terror. Cyhoeddir yn flynyddol. @thepaperwales

Poetry Wales

Cylchgrawn barddoniaeth cenedlaethol Cymru. Mae Poetry Wales yn cyhoeddi barddoniaeth gyfoes sydd â pharch rhyngwladol, erthyglau ac adolygiadau. Cyhoeddir deirgwaith y flwyddyn.

Home – Poetry Wales

The Welsh Agenda

Llwyfan materion cyfoes print a digidol ar gyfer dadl gadarn a gwybodus, gan gynnig persbectif Cymreig unigryw ar faterion o bwys. Cyhoeddir ddwywaith y flwyddyn.

the welsh agenda – Institute of Welsh Affairs