Sut i Ddarllen
Francesca Sciarrillo sy’n trin a thrafod darllen, ei ddylanwad a’i effaith ar eu bywydau bob dydd, yn ogystal â llyfrau o bob math gyda gwesteion amrywiol. Ymhlith y gwesteion sy’n rhannu eu hatgofion a’u hargymhellion darllen mae Siôn Tomos Owen, Kayley Roberts a Manon Steffan Ros.
Francesca yw ein Swyddog Hyrwyddo Darllen yn y Cyngor Llyfrau, ac mae hi hefyd yn wyneb cyfarwydd fel cyd-gyflwynydd Y Sîn, rhaglen gelfyddydol ar S4C, ac fel colofnydd i’r cylchgrawn i siaradwyr Cymraeg newydd, Lingo a Lingo 360.
Colli’r Plot
Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell sgwrs ddwys gyda phedwar awdur sy’n aml yn colli’r plot! Gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Sian Northey a Manon Steffan Ros. (Cefnogir gan y Cyngor Llyfrau, cynhyrchwyd gan Y Pod.)
Gwrando ar bodlediad Colli’r Plot (Agor mewn ffenest newydd)
Caru Darllen
Mari Siôn sy’n trafod llyfrau o bob math, gyda gwesteion arbennig. Recordwyd rhwng 2020 and 2023.
Gwrando ar bodlediad Caru Darllen (Agor mewn ffenest newydd)