Amdani

Amdani logo

Dyma gyfres ddifyr o lyfrau darllen wedi eu hysgrifennu’n arbennig ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Maen nhw’n rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg gynyddu eu hyder a mwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau a themâu cyfoes ar lefel iaith sy’n addas ar eu cyfer nhw, ble bynnag maen nhw ar eu taith ddysgu. 

Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel cwrs y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: 

  • Mynediad
  • Sylfaen 
  • Canolradd
  • Uwch  

Maen nhw’n defnyddio geirfa a ffurfiau sy’n cyd-fynd â’r lefelau hyn, yn cynnwys darluniau i gefnogi’r dysgu, ynghyd â rhestr o rai o’r geiriau anoddach yn Saesneg. 

Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth am gyrsiau dysgu Cymraeg, cysylltwch gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (Gwefan Allanol, agor mewn ffenest newydd)